Marwolaeth, mynwentydd a galar: Lleoliadau morbid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Louvain Rees yn hanesydd sy'n arbenigo mewn hanes cymdeithasol Cymreig, ond yn canolbwyntio ar farwolaeth a galar. Ei bwriad yw i geisio dechrau sgwrs agored ynglŷn â marwolaeth.
Yma, mae'n rhannu ei dewis o rai o'i 'hoff' fynwentydd yng Nghymru:
O fynwentydd i anifeiliaid anwes i mortsafes, mae mynwentydd Cymru yn llawn cofebau diddorol. Er eu bod yn aml yn cael eu diystyru, mae cofebau mewn tiroedd claddu, mynwentydd a thiroedd eglwysi yn cynnwys llawer o wybodaeth.
Roedd hi'n anodd dewis dim ond rhai. Mae rhain yn lleoedd dwi wedi ymweld â nhw nifer o weithiau.
Byddwn i bendant yn argymell y lleoedd yma ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb yn ochr arall hanes rhyfedd, ac yn aml morbid, Cymru
Mynwent Colera Cefn Golau, Tredegar
Cafodd Cefn Golau ei agor yn ystod epidemic colera yn 1832, ac roedd yn un o dair mynwent colera yn yr ardal.
Mae wedi ei leoli mewn man anghysbell oddi ar y ffordd o Dredegar i Rhymni, ac mae tua 200-600 o bobl wedi eu claddu yno.
Bellach, dyma'r unig fynwent colera ar ôl yng Nghymru.
Mynwent Eglwys Sant Cein, Llangeinwyr
Ymysg y cofebau a'r cerrig beddi, mae rhywbeth arbennig ym Mynwent Sant Cein.
Dyma gartref un o'r unig mortsafes parhaol sydd wedi goroesi yng Nghymru, sy'n amddiffyn bedd merch ifanc o'r enw Rachel.
Roedd rhain yn cael eu defnyddio fel dull o amddiffyn bedd ar ôl y gladdedigaeth. Roedden nhw fel arfer yn rhywbeth dros dro, a byddai'r gawell haearn yn cael ei gymryd oddi yno ar ôl i'r bedd setlo.
Ond mewn rhai lleoedd, roedd cawell barhaol yn cael ei gosod er mwyn amddiffyn y bedd am byth.
Mynwent Eglwys Sant Beuno, Gwyddelwern
Mae'r fynwent yma yn llawn cofebau hardd o lechen.
Yma mae un o'r cofebau memento mori mwyaf diddorol dwi wedi dod ar eu traws yn y fynwent yma, sef beddrod cist hardd o'r 18fed ganrif er cof am y Parch. Edward Wynne, a fu farw yn 1745, a'i wraig Jane, a fu farw yn 1730.
Mae'r beddrod wedi cael ei addurno gydag arysgrifau a darluniau memento mori, sydd yn cynnwys penglog ac esgyrn wedi eu croesi, awrwydr ac angel barn yn deffro'r meirw.
Gerddi Sant Ioan a Dead Man's Alley, Caerdydd
Yn un o nifer o'r mynwentydd yng Nghaerdydd sydd wedi eu troi yn barciau cyhoeddus, roedd Gerddi Sant Ioan yn wreiddiol yn rhan o Fynwent Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, a oedd, tan ganol yr 1890au, yn estyn o Stryd Sant Ioan hyd at yr Hen Lyfrgell.
Pan agorodd Marchnad Caerdydd yn 1891, cafodd llwybr ei greu drwy'r fynwent i ddarparu mynediad haws i'r farchnad. Mae'r llwybr sydd yn gwahanu dwy ran y fynwent yn cael ei 'nabod fel Dead Man's Alley.
Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr, efallai y sylwch chi ar rifau ar y slabiau o dan eich traed. Mae'r rhain yn nodi lleoliadau celloedd claddu teuluol sydd dal i orwedd o dan y concrid.
Eglwys Santes Fair, Llanfair Iscoed
Gallwch ddod o hyd i un o fy hoff ddarganfyddiadau yng nghyntedd Eglwys Santes Fair yn Llanfair Iscoed.
Ar ddarn o garreg a oedd unwaith yn rhan o gamfa, mae pennill o'r 18fed ganrif sydd yn rhoi gair o rybudd i bobl oedd yn gwneud chwaraeon ar Ddydd Sul!
'Who Ever hear on a Sonday
Will Practis Playing At Ball
it May Be before Monday
The Devil Will Have you All'
Bedd y Cawr, Rhaeadr Gwy
Er fod yna gofebau hardd ym mynwent Eglwys Sant Clement yn Rhaeadr Gwy, beth dwi'n ei ffeindio'n ddiddorol yw patshyn moel o wair sy'n cael ei amgylchynu gan reiliau Fictoriaidd sydd wedi rhydu.
Enw'r patshyn yma yw Bedd y Cawr, ac mae'n nodi safle bedd torfol. Mae'n debyg mai pwy gafodd eu claddu yno oedd milwyr a laddwyd gan Llywelyn ap Iorwerth pan gipiodd Gastell Rhaeadr yn 1231.
Yn ôl y chwedl, pan gafodd y bedd torfol ei ddarganfod, roedd yn cynnwys asgwrn clun enfawr, a dyna sut cafodd Bedd y Cawr ei enw.
Tŷ Tredegar
Mae yna gofeb yng ngerddi Tŷ Tredegar sy'n nodi safle gladdu ceffyl go arbennig.
Ei enw oedd Sir Briggs, ac ef oedd y ceffyl a gariodd Godfrey Morgan, yr Arglwydd Tredegar cyntaf, yn ystod y Charge of the Light Brigade fel rhan o Frwydr Balaclava yn ystod Rhyfel y Crimea.
Mynwent Cathays, Caerdydd
Yn 1893, cafodd cais ei wneud i Fwrdd Gwarchodwyr Caerdydd am gyrff tlodion oedd heb gael eu hawlio yn Wyrcws Caerdydd er mwyn eu hanfon i'r Ysgol Anatomeg yng Nghaerdydd.
Cafodd y cais ei ddebyn, ar yr amod fod y cyrff wedyn yn cael angladd Gristnogol.
Mae cannoedd o'r cyrff yma, felly, wedi eu claddu mewn beddi heb gerrig ger adran Gatholig y fynwent. Mae rhai a fu farw mewn sefydliadau eraill yn Nghaerdydd, fel Ely Lodge, Ysbyty Meddwl yr Eglwys Newydd a Nazareth House, hefyd wedi cael eu claddu yn yr un ardal.
Mynwent Capel Salem, Pentre Gwynfryn
Gallwch ddod o hyd i'r capel gymharol enwog yma yn cuddio yn Nyffryn Ardudwy. Mae'r capel yn enwog am ysbrydoli paentiad Salem gan Vosper yn 1908. Ond i mi, nid dyma fy hoff ran o'r capel.
Er ei fod yn fychan, mae'r fynwent ger y capel yn ddiddorol iawn, oherwydd ei fod yn llawn cofebau dwyieithog hardd.
Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gerrig beddi Fictoriaidd-Gymreig nodweddiadol, wedi eu gwneud o lechi lleol, gydag arysgrifau wedi eu goreuro ag arian.
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Pen-hw
Fel yr eglwys yn Llanfair Iscoed, mae gan yr eglwys yma hefyd garreg ddiddorol yn y cyntedd, sef carreg fedd Elizabeth Tamplin.
Yn ôl y garreg, roedd Elizabeth yn 111 oed pan fuodd hi farw yn 1783. Byddai hyn yn golygu ei bod hi wedi cael ei geni yn 1672.
'Nes i edrych yng nghofnodion y plwy' am ei hangladd, ac yn wir, mae'n debyg ei bod hi'n 112 oed pan fuodd hi farw!
Hefyd o ddiddordeb: