Trebor Edwards yn torri record i Sain
- Cyhoeddwyd
Trebor Edwards, y canwr enwog o Fetws Gwerful Goch, sydd wedi gwerthu y nifer fwya' o albyms Cymraeg i gwmni Sain, fel artist unigol, dros y blynyddoedd, gyda gwerthiant o dros 155,000 o recordiau.
Ond nid am ei ganu'n unig y mae Trebor Edwards yn adnabyddus. Daeth ei gi defaid, Shep, ag enwogrwydd fyd-eang iddo, wedi iddyn nhw ymddangos ar y rhaglen glipiau It'll Be Alright on the Night. Mae'r pwt o fideo hefyd yn parhau i gael ei wylio a'i rannu gan filoedd o bobl ar wefan YouTube, dolen allanol.
Bu Trebor Edwards a'i wraig Ann yn sgwrsio gyda Aled Hughes ar BBC Radio Cymru:
"Mae hynny wedi fy syfrdanu i a dweud y gwir," meddai Trebor Edwards o glywed mai ef a werthodd y fwya' o recordiau i gwmni Sain dros y blynyddoedd.
"Mi oedd Sain yn dweud eu bod nhw'n gwerthu'n dda, ond do'n i ddim wedi sylweddoli pa mor dda. O'n ni'n gwerthu dipyn o recordiau yn y cyngherddau, oedd o'n help i gradur bach tlawd fatha fi!
"Fe fues i'n canu dipyn ar cruise ships. 'Dan ni'n dal i fynd ar y cruise ships, ond dydw i ddim yn canu rŵan.
"Oedd o'n brofiad bendigedig, ddaru fi fwynhau o'n ofnadwy a chael gweld gwahanol lefydd lle 'sen i byth yn meddwl 'sen i 'di cael bod."
Roedd y 1970au a'r 1980au yn gyfnod prysur iawn i Trebor Edwards wrth iddo ganu mewn cyngherddau ledled Cymru a theithio'r byd. Roedd ei wraig Ann yn mynd gyda fe ar ei deithiau o Hong Kong i America i Johannesburg. Ag yntau hefyd yn ffermio, roedd y diolch i'w feibion am gynnal y fferm, meddai.
"Oedd hi'n adeg prysur iawn.
"Ffarmio oedd yn dod gynta', dwi'n cofio llawer gwaith, dod adre yn hwyr y nos ac eisio mynd rownd defaid a mynd efo'r car rownd y cae a tjecio.
"Achos oedd rhywun 'di gwisgo fyny i ganu mewn cyngerdd, ganol nos, [mi fyswn mewn siwt yn mynd rownd y cae] a mewn dici-bo weithie!
"O'n i'n lwcus, efo'r ddau fab, Gwyn ac Erfyl, oeddan nhw wrth eu boddau adre yn ffarmio. Dwi'n cofio pan oedd gwahoddiad i fynd i Hong Kong, oedd hynny yn yr adeg pan oedd y defaid ac ŵyn yn dechre, a finne'n dweud 'dwi'n meddwl mai well fyddai peidio mynd'.
"Ond 'na, 'Dad, mae'n rhaid i chi fynd, wnawn ni edrych ar ôl y defaid' [medden nhw]. A felly fuodd hi, chware teg iddyn nhw."
Un Dydd ar y Tro yn ysgogi tatŵs!
Mae un gân y mae Trebor Edwards yn fwy enwog am ei chanu nag eraill, a prin y meddyliodd y byddai'r teitl yn ysgogi tatŵs ddegawdau wedyn!
"'Un Dydd Ar y Tro' oedd y gân fwya' poblogaidd ohonyn nhw i gyd.
"Yn y Steddfod, ddoth 'na ferch atai a gofyn a fyswn i'n meindio cael tynnu fy llun efo hi, a dywedodd 'mae gen i tatŵ ar fy mraich, 'Un Dydd Ar y Tro'.
"Ac mae gen i ddwy wyres, Alwen yn Awstralia a Lydia, ac mae gan y ddwy ohonyn nhw datŵ 'Un Dydd Ar y Tro'."
Enwogrwydd annisgwyl - It'll Be Alright on the Night
Yn annisgwyl hefyd y daeth enwogrwydd i Trebor Edwards ar draws y byd, pan ymddangosodd glip fideo ohono'n canu gyda Shep ei gi defaid wrth ei draed, ar raglen It'll Be Alright on the Night ar ITV.
"Oeddan ni'n neud rhyw raglen, y ci a fi, ac oeddan nhw'n dweud wrthai am gerdded ar hyd y cae, o'n i'n trio neud popeth oeddan nhw'n dweud wrthai.
"Dyma'r hen gi hefo fi, mi eisteddodd i lawr ac mi gododd ei dwy goes ôl a llusgo ei hun i lawr - a dyna'r job orau wnaeth y ci erioed!
"Roedd mor naturiol yn doedd? Heb i neb ddweud wrth y ci am wneud, fe wnaeth!
"Ar y dechre o'n i'n cael cheque o wledydd drwy'r byd lle oedd yn cael ei ddangos ar y pryd, ac mae ambell i un dal yma. Roedd yn costio fwy i'w rhoi yn y banc na'u gwerth!"
Hefyd o ddiddordeb: