'Angen codi ymwybyddiaeth am y menopôs yn y gweithle'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr wedi galw am godi mwy o ymwybyddiaeth o'r menopôs yn y gweithle er mwyn helpu menywod sy'n mynd drwyddo.
Ar drothwy Diwrnod Menopôs y Byd, fe fydd caffi arbennig yn cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i annog pobl i siarad am eu profiadau.
Dywedodd pennaeth iechyd a lles gweithwyr y bwrdd iechyd, Nicola Bevan, bod "siwrne menopôs pawb yn wahanol" a bod modd i bawb ddysgu o gael sgyrsiau am y peth.
Mae ymchwil gan y Gymdeithas Fenopôs Brydeinig yn y gorffennol wedi canfod bod tua 45% o fenywod wedi teimlo fod y menopôs wedi cael effaith negyddol ar eu gwaith a'u bywyd pob dydd.
'Dysgu mwy'
Mae'r menopôs yn broses naturiol sy'n digwydd wrth i hormonau menywod newid fel maen nhw'n mynd yn hŷn - fel arfer pan maen nhw rhwng 45 a 55 oed.
Ond mae hefyd yn gallu effeithio ar fenywod mewn gwahanol ffyrdd, ac nid pawb sy'n dioddef o'r symptomau cyffredin fel pyliau o wres a chwysu yn ystod y nos.
Mewn arolwg yn 2017 dywedodd 26% o fenywod eu bod wedi teimlo llai o awydd i fynd allan a chymdeithasu oherwydd effaith y menopôs, tra bod 32% yn teimlo nad oedden nhw'n gwmni cystal.
Roedd traean hefyd yn teimlo fel eu bod yn gwneud llai o ymarfer corff, tra bod 51% yn dweud ei fod wedi effeithio ar eu bywyd rhywiol.
Fel rhan o ymdrechion i gael pobl i drafod y broses, bydd Caffi Menopôs yn cael ei gynnal yn Woodland House, Caerdydd ddydd Gwener er mwyn ceisio cael mwy o bobl i sgwrsio am y peth.
"Rydyn ni'n araf deg yn ceisio torri'r tabŵ a rhannu gwybodaeth ar draws gwahanol feysydd, fel gweithwyr GIG, cleifion ac aelodau'r teulu sy'n cefnogi'r rheiny sy'n mynd drwy'r menopôs," meddai prif weithredwr Caerdydd a'r Fro, Len Richards.
Ychwanegodd Ms Bevan fod y syniad o gaffis i drafod y menopôs wedi bod yn ffordd "wych" o godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i drafod pwnc sy'n aml yn un sensitif a phersonol.
"Yn y caffis does dim agenda, dim cyflwyniadau a does dim byd oddi ar y bwrdd pan mae'n dod at y sgyrsiau," meddai.
"Rydyn ni wedi cael chwerthin, dagrau a gwrido, a dwi wedi dysgu mwy am y menopôs na fydden ni allan o lawlyfr."
'Dim syniad mod i'n mynd drwyddo'
Mae undebau llafur fel Unsain a'r TUC wedi cyhoeddi canllawiau am bethau all gael eu gwneud yn y gweithle i hwyluso pethau i bobl sy'n mynd drwy'r menopôs.
Yn eu plith mae sicrhau bod gwisgoedd gwaith yn adlewyrchu anghenion y menywod - eu bod yn ffitio'n llac, er enghraifft - a bod digon o olau ac awyr iach yn y gweithle.
Maen nhw hefyd yn galw ar reolwyr i fod yn fwy hyblyg o ran trefniadau absenoldeb, a deall sut allai'r menopôs fod yn effeithio ar waith eu staff.
"Dwi wedi gweld llawer o fy nghydweithwyr benywaidd dros y blynyddoedd yn cael trafferthion gyda symptomau'r menopôs, ac yn teimlo cywilydd am yr effaith negyddol mae wedi'i gael ar eu bywydau," meddai Eileen Munson, darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru a chyn-nyrs.
"Wrth siarad gyda chydweithwyr a ffrindiau, maen nhw'n teimlo fod e'n rhywbeth mae'n rhaid iddyn nhw jyst ddod drosto ac yn aml maen nhw ond yn cael cyngor ar lafar ar beth sy'n gweithio a beth sydd ddim."
Yn ôl Kathryn Murray, fferyllydd sy'n arwain profion clinigol gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, mae'n bwysig hefyd bod gweithwyr iechyd yn fwy ymwybodol o'r gwahanol effaith mae'r newidiadau'n ei gael ar fenywod.
"Dwi wedi hyfforddi fel fferyllydd a doedd gen i ddim syniad mod i'n mynd drwy'r menopôs, gan fod fy symptomau i'n wahanol i'r pyliau o wres a chwysu yn ystod y nos mae nifer o fenywod yn ei gael," meddai.
"Mae profiad pawb yn wahanol ond mae llawer y gallwn ni ei rannu."