Cwpan FA Lloegr: Chesterfield 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaid i Wrecsam groesawu Chesterfield unwaith eto ddydd Mawrth nesaf i ail-chwarae eu gêm ym mhedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan FA Lloegr, ar ôl iddyn nhw orffen yn gyfartal brynhawn Sadwrn.
Daeth unig gôl Chesterfield wedi naw munud, diolch i Mike Fondop, arferai chwarae i Wrecsam.
Bu'n rhaid aros nes 63 munud o chwarae i'r Dreigiau unioni'r sgôr, gyda Bobby Grant yn darganfod cefn y rhwyd.
Y gêm honno ar nos Fawrth yn y Cae Ras fydd y trydydd tro i'r timau wynebu ei gilydd o fewn wythnos, ar ôl i Chesterfield guro Wrecsam 0-1 nos Fawrth diwethaf yn y Gynghrair Genedlaethol.