Cymry mewn rali dros gynnal ail bleidlais i'r bobl
- Cyhoeddwyd
Bu cannoedd o bobl o Gymru mewn rali yn Llundain ddydd Sadwrn i alw am roi pleidlais o'r newydd i bobl gwledydd y Deyrnas Unedig ar unrhyw gytundeb Brexit.
Roedd y rali wedi cael ei threfnu gan ymgyrchwyr 'Pleidlais y Bobl' i gyd-fynd â'r ddadl a oedd yn digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin ar y cytundeb diweddaraf rhwng llywodraeth Boris Johnson ac aelodau'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd trefnwyr y rali fod bron i filiwn o bobl wedi mynychu'r rali, tra bod heddlu'r Met yn dweud ei bod yn 'brysur iawn' ger San Steffan.
Wrth i ganlyniad y bleidlais ar welliant Oliver Letwin i'r cynnig a oedd o flaen aelodau seneddol gael ei gyhoeddi, fe wnaeth y rhai a oedd yn mynychu'r rali ymateb gyda gorfoledd.
Roedd sawl bws o Gymru wedi cael eu trefnu er mwyn cludo cefnogwyr i'r rali, gyda rhai yn gadael am 05.00 er mwyn cyrraedd Llundain mewn pryd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe wnaeth Mike Owen ddal y bws o Bwllheli yn y bore bach.
"Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n dangos dymuniad y bobl i gael ail bleidlais," meddai, "fedran nhw (y gwleidyddion) ddim peidio gwrando arnon ni, dwi'n credu, bydd rhaid iddyn nhw gymryd ystyriaeth be mae'r bobl allan fama ei angen."
"Ella neith o ddim gwahaniaeth," meddai ei ferch Llinos Owen a oedd gydag e ar yr orymdaith, "ond da ni isho teimlo bo ni 'di gneud w'bath, bod yn rhan o w'bath."
"Roedden ni yma ym mis Mawrth hefyd, a does dim llawer o ddim wedi newid."
"Roedd rhaid mynnu bod rhywun yn gwrando ar ein lleisiau ni," meddai Erica o Gasnewydd.
"Da ni wedi clywed digon o'r lleisiau eraill, dyma ein cyfle ni i ddangos ein cryfder a'n parodrwydd i fod yma i ddweud be da ni ei eisiau."
"Dwi'n meddwl ddylsen nhw wrando arnon ni," meddai Sian, a oedd wedi teithio o Raglan i Lundain bore yma, "os 'da chi'n edrych ar faint o bobl sydd yma fe ddylsen nhw."
"Do, fe wnaeth llawer o bobl yn Sir Fynwy wedi pleidleisio i adael, ond doedd pawb ddim rili yn ymwybodol am beth oedden nhw'n pleidleisio drosto y tro dwytha.
"Ond nawr 'da ni yn gwybod, felly nawr ydy'r cyfle i gael pleidleisio efo pawb yn ymwybodol o beth sy'n mynd ymlaen."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Jill Taylor o Gwmbran: "Roedd rhaid i rywun sefyll i fyny'n erbyn y llywodraeth yma cyn eu bod nhw'n ei'n croeshoelio i ni gyd."
Fe ddechreuodd yr orymdaith yn Park Lane cyn ymlwybro draw at Dy'r Cyffredin a Sgwâr San Steffan, lle y bu nifer o wleidyddion o bob plaid yn annerch y dorf, gyda rhai yn mynd yno wedi'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fore Sadwrn roedd trefnwyr 'Pleidlais y Bobl' yn galw ar gefnogwyr i lofnodi llythyr at Boris Johnson, arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, ASau ac ASEau yn galw arnyn nhw i "edrych o'r newydd a oedden nhw mewn gwirionedd eisiau bwrw ymlaen gyda Brexit."
Daeth hi i'r amlwg hefyd fod dros £500,000 mewn cyfraniadau wedi cael eu rhoi i gefnogi'r brotest, gyda gwleidyddion trawsbleidiol yn galw ar bobl i gymryd rhan.