Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru'n trechu Ffrainc 20-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymateb Wyn Jones ac Owen Watkins i fuddugoliaeth Cymru

Bu'n rhaid i Gymru frwydo hyd y diwedd i sicrhau buddugoliaeth dros Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd yn Oita.

Drwy gydol y gêm bu Ffrainc yn chwarae gyda thempo uchel, gan sicrhau dau gais yn y 10 munud cyntaf.

Er i hynny siglo Cymru, a thîm Warren Gatland yn chwarae'r mwyafrif o'r hanner cyntaf ar y droed ôl, cafwyd dau gais gan y crysau cochion erbyn y diwedd, gyda Ross Moriarty yn dychwelyd o gerdyn melyn i gael y cais tyngedfennol.

Bydd Cymru nawr unai'n wynebu De Affrica neu Japan dydd Sul, 27 Hydref.

Gyda llai na phum munud ar y cloc daeth cais cyntaf Ffrainc, i Sebastien Vahaamahina, a thair munud yn ddiweddarach tro Charles Ollivon oedd hi i groesi llinell Cymru, a Ffrainc yn carlamu ar y blaen diolch i drosiad gan Romain Ntamack.

Adam Wainwright wnaeth ymateb dros Gymru, gan godi'r bêl yn ystod chwarae rhydd a charlamu at y pyst, a thrwy hynny yn sicrhau ei gais gyntaf dros ei wlad.

Cafodd nerfau Cymru eu llonyddu rhywfaint wedyn, gyda chic gosb gan Dan Biggar yn dod â Chymru'n o fewn dau bwynt i Ffrainc hanner ffordd yn union drwy'r hanner cyntaf.

Ond yna daeth clec arall i amddiffyn Cymru wrth i Josh Navidi hercian oddi ar y cae, ac yna bu'n rhaid i Gymru chwarae 10 munud olaf yr hanner cyntaf gyda 14 dyn wedi i Ross Moriarty, oedd newydd ddod ar y cae yn lle Navidi, gael ei anfon i'r gell gosb am dacl uchel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Wainwright yn dangos ei gyflymder wrth sicrhau ei gais gyntaf dros Gymru

Fe wnaeth y Ffrancwyr fanteisio ar y dyn ychwanegol funud yn ddiweddarach gyda Virimi Vakatawa yn ymestyn i osod y bêl dros linell gais Cymru, ac Ntamak yn trosi i sicrhau'r pwyntiau llawn i roi Ffrainc ar y blaen o 10-19.

40 munud digon anodd i dîm Cymru, ac roedd y chwaraewyr yn gwybod wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r cae fod ganddyn nhw dipyn i'w wneud i droi'r fantais o'u plaid.

Ar ddechrau'r ail hanner roedd 'na gerdyn coch i Vahaamahina am roi penelin i wyneb Wainwright, gyda Biggar yn sicrhau tri phwynt yn fuan wedi hynny gan ddod a Chymru o fewn un sgôr i Ffrainc.

Prin iawn oedd y cyfnodau o chwarae agored gan Gymru gyda George North, wrth basio'r bêl yn uchel, ei rhoi yn syth i ddwylo Ffrainc, gan ildio'r fantais unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Ffrainc i lawr i 14 dyn am 25 munud olaf y gêm wedi'r cerdyn coch i Sebastien Vahaamahina

Gydag wyth munud yn weddill, wedi llinell Cymru yn nwy ar hugain Ffrainc, bu'n Cymru'n pwyso cyn iddyn nhw golli'r bel eto o fewn llathenni i linell Ffrainc.

Ond yna, wrth i sgrym Ffrainc droi daeth rhyng-gipiad gan Justin Tipuric o flaen y llinell a Ross Moriarty yn gwasgu ei hun dros y llinell i sgorio cais wnaeth ennill y gêm, gyda Biggar yn trosi.

Buddugoliaeth o un pwynt yn unig, ond un sydd wedi sicrhau lle i Gymru yn y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers colli i Ffrainc yn 2011.