Ymchwilio i lun o ddyfarnwr rygbi gyda chefnogwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jaco Peyper gyda chefnogwyrFfynhonnell y llun, Fabien Heuzé/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd World Rugby na fyddai'n gwneud sylw am y llun o Jaco Peyper ( canol) wrth i ymchwiliad barhau

Mae World Rugby yn ymchwilio ar ôl i lun o ddyfarnwr yn ymddangos ei fod yn gwneud hwyl o chwaraewr Ffrainc gafodd gerdyn coch ymddangos ar-lein.

Yn y llun mae Jaco Peyper - roddodd gerdyn coch i Sebastien Vahaamahina am daro'i benelin i wyneb Aaron Wainwright ddydd Sul - yn dal ei benelin yng ngwyneb cefnogwr.

Peyper oedd y prif ddyfarnwr wrth i Gymru ennill o bwynt a sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Dywedodd World Rugby - y corff sy'n rheoli rygbi rhyngwladol - ei fod yn ceisio "cadarnhau'r ffeithiau" ynghylch y llun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Ffrainc i lawr i 14 dyn am 25 munud olaf y gêm wedi'r cerdyn coch i Sebastien Vahaamahina

Dywedodd datganiad: "Mae World Rugby yn ymwybodol o lun ar wefannau cymdeithasol o Jaco Peyper gyda grŵp o gefnogwyr Cymru gafodd ei gymryd ar ôl gêm wyth olaf rhwng Cymru a Ffrainc yn Oita neithiwr [ddydd Sul].

"Byddai'n anaddas i wneud sylw pellach tra ein bod ni'n cadarnhau'r ffeithiau."

Mae is-lywydd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc, a chyn-brop y wlad, Serge Simon, wedi galw'r llun yn "syfrdanol".

Roedd Peyper yn dyfarnu ei 50fed gêm brawf ddydd Sul.