Disgwyl penderfyniad am gais cynllunio Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd

Fe allai'r gwaith o adeiladu Wylfa Newydd ddechrau yn 2020
Bydd datblygwyr atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn clywed yn ddiweddarach a ydyn nhw wedi sicrhau caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU.
Gobaith cefnogwyr y prosiect yw y gallai hyn arwain at ailddechrau trafodaethau rhwng y ddau ynglŷn ag ariannu'r prosiect gwerth £13bn.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom gymeradwyo cais Pŵer Niwclear Horizon am orchymyn caniatâd datblygu (DCO).
Yn ôl Horizon fe fydd gan y penderfyniad "ddylanwad mawr" ar ddyfodol y cynllun.
Atal y gwaith
Fe dreuliodd arolygwyr cynllunio chwe mis yn astudio'r cynlluniau, gan ystyried eu heffaith ar bobl leol a'r amgylchedd, cyn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth y DU.
Bydd eu hadroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ôl i Ms Leadsom egluro ei phenderfyniad.
Wylfa Newydd fyddai'r prosiect ynni mwyaf erioed i gael ei adeiladu yng Nghymru.

Byddai Wylfa Newydd yn cael ei adeiladu ar dir ger yr hen atomfa
Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr gael eu cyflogi yn ystod y gwaith o osod y ddau adweithydd, oedd i fod i ddechrau cynhyrchu trydan yng nghanol y 2020au gan gyflenwi hyd at bum miliwn o gartrefi am 60 mlynedd.
Ond cyhoeddodd cwmni Hitachi - sy'n berchen ar Horizon - ym mis Ionawr ei fod yn atal y gwaith am y tro ar ôl methu a dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pris fyddai'n cael ei dalu am drydan o'r safle.
Ers hynny mae gweinidogion wedi bod yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â ffyrdd newydd o ariannu prosiectau ynni niwclear drud.
'Diwydiant go enbyd'
Mae gwrthwynebwyr ynni niwclear yn galw ar Ms Leadsom i wrthod y cais cynllunio, gan ddweud y dylid blaenoriaethu ymdrechion i hybu ynni adnewyddadwy.
Dywedodd Dylan Morgan, o grŵp Pobl Atal Wylfa-B (PAWB), ei bod yn "amlwg bod Horizon/Hitachi yn awyddus i gael y caniatâd er mwyn gwerthu'r safle".
"Haws dweud na gwneud yw hynny ar hyn o bryd gyda chyflwr go enbyd y diwydiant niwclear ar draws y byd a'r economeg anobeithiol," meddai.
Yn ôl llefarydd ar ran Horizon: "Tra bo'r prosiect yn parhau i fod wedi'i atal, byddai penderfyniad cadarnhaol i gymeradwyo ein DCO yn ein galluogi ni i ddeall yr amodau sydd wedi'u gosod ar y prosiect, petai'r amodau cywir i ailddechrau yn cael eu sicrhau."

Mae gwrthwynebiad wedi bod i gynllun Wylfa Newydd o'r dechrau
Dywedodd Dr Jenifer Baxter, pennaeth ynni a'r amgylchedd gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol y byddai hefyd yn gallu denu mwy o brosiectau ynni a buddsoddiad i Ynys Môn a gogledd Cymru.
"Doedd hi fyth yn gwestiwn na fyddai'r cais cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd yn cael ei gymeradwyo - mae'n rhwystr arall o'r ffordd," meddai.
"Bydd y caniatâd yn gwneud buddsoddi yn yr orsaf bŵer yn llawer mwy deniadol i grŵp ehangach o fuddsoddwyr, sy'n agor mwy o gyfleoedd i Wylfa Newydd gael ei hadeiladu.
"Mae'n golygu y gall gogledd Cymru ddechrau meddwl am y posibiliadau ar gyfer datgarboneiddio yn ehangach, er enghraifft, all y pŵer carbon isel yma gyfrannu at wneud tanwydd gyda dŵr a hydrogen?"

Cyhoeddodd Hitachi - sy'n berchen ar Horizon - ym mis Ionawr ei fod yn atal y gwaith ar yr orsaf am y tro
Dywedodd llefarydd ar ran yr Arolygiaeth Gynllunio: "Yn dilyn ymchwiliad chwe mis o hyd, pan y clywon ni gan bobl oedd wedi'u heffeithio gan y prosiect, fe wnaeth y panel o arolygwyr gyflwyno argymhelliad i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ynni ar 23 Gorffennaf 2019.
"Roedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis wedyn i benderfynu p'run ai i gynnig caniatâd cynllunio ai peidio.
"Felly mae disgwyl y penderfyniad ar ddydd Mercher 23 Hydref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019