Bachgen 'ddim wedi ceisio lladd' cyd-ddisgybl
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Eirias ar fore Llun, 11 Chwefror eleni
Mae llanc sydd wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio cyd-ddisgybl mewn ysgol ym Mae Colwyn wedi dweud nad oedd yn bwriadu ei ladd.
Mae'r bachgen, 16, yn gwadu ceisio llofruddio'r bachgen arall yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ar 11 Chwefror eleni.
Ond mae'r diffynnydd - nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed - wedi cyfaddef cyhuddiad llai difrifol o anafu gyda bwriad.
Dywedodd y diffynnydd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mai anafu, nid lladd, y bachgen oedd ei fwriad.
'Dim ond eisiau achosi niwed'
Clywodd y llys bod y llanc wedi bod yn yfed wisgi roedd wedi'i ddwyn cyn mynd i'r ysgol y bore hwnnw.
Dywedodd y diffynnydd bod y dirprwy bennaeth wedi cymryd y botel oddi arno ar ôl ei chanfod yn ei fag, ond na chafodd cyllell oedd ynddo hefyd ei ddarganfod.
Ychwanegodd ei fod wedi penderfynu trywanu ei gyd-ddisgybl i "gael gwared ar fy rhwystredigaeth".
"Dim ond eisiau achosi niwed iddo oeddwn i - ei anafu," meddai.

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Clywodd y rheithgor ddydd Llun bod y bachgen wedi trywanu ei gyd-ddisgybl er mwyn dial am fod y botel wisgi wedi'i chymryd oddi arno.
Dywedodd y diffynnydd wrth y rheithgor ei fod yn byw gyda'i chwaer a'i phartner a bod y teulu mewn cyfnod anodd ar y pryd.
Clywodd y llys hefyd fod mam y diffynnydd wedi marw pan oedd yn 10 oed ac mai ef ddaeth o hyd i'w chorff.
'Dweud celwydd' am ei fwriad
Ychwanegodd y bachgen ei fod wedi dweud celwydd wrth yr heddlu ei fod wedi bwriadu lladd y bachgen am ei fod yn oer a gwlyb pan gafodd ei arestio, a'i fod eisiau cael ei gadw yn y ddalfa oherwydd hynny.
Dywedodd ei fod wedi ymosod ar anifeiliaid fferm yn y gorffennol ond ei fod yn teimlo'n "ofnadwy" am y digwyddiadau hynny erbyn heddiw.
Ychwanegodd ei fod yn edifar trywanu ei gyd-ddisgybl, gan ddweud ei fod yn "meddwl amdano a'i deulu" yn aml.
Yn gynharach clywodd y llys gan ymgynghorydd seiciatryddol wnaeth asesu'r bachgen, ddywedodd ei fod yn "gwybod y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n iawn a'r hyn sydd ddim".
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019