Brexit: Llywodraeth yn oedi Mesur Ymadael am y tro

  • Cyhoeddwyd
Canlyniad
Disgrifiad o’r llun,

Nos Fawrth fe gafodd y Mesur Ymadael ei basio, ond yr amserlen ei gwrthod

Mae'r llywodraeth wedi penderfynu oedi'r Mesur Ymadael ar ôl colli pleidlais allweddol yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o'r 40 o aelodau seneddol o Gymru bleidleisio yn erbyn y llywodraeth, gyda'r chwe Ceidwadwr Cymreig yn pleidleisio o blaid.

Nos Fawrth fe gafodd y Mesur Ymadael ei basio gyda mwyafrif o 30 ond yn ddiweddarach cafodd amserlen Boris Johnson - fyddai'n cyfyngu'r cyfnod o drafod i dridiau - ei gwrthod.

Hwn oedd y tro cyntaf i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio o blaid unrhyw gytundeb Brexit o ran egwyddor.

'Brexit heb gytundeb yn nes'

Dywedodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones, bod y rheiny bleidleisiodd yn erbyn yr amserlen yn cynyddu'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

"Roedd eu pleidlais yn erbyn yr amserlen yn bleidlais yn erbyn gadael gyda chytundeb i bob pwrpas, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw feddwl ai dyna beth maen nhw eisiau mewn gwirionedd," meddai.

Mae Mr Johnson wedi dweud ei fod yn gobeithio gadael yr UE ar 31 Hydref.

Byddai hynny'n ddibynnol ar yr UE yn gwrthod caniatáu estyniad, ond mae llywydd Cyngor yr UE, Donald Tusk wedi dweud ei fod am argymell ei ganiatáu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Jones bod y rheiny bleidleisiodd yn erbyn yr amserlen yn cynyddu'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb

Ond mae AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock wedi dweud mai dim ond estyniad byr sydd ei angen, er mwyn rhoi'r amser i Dŷ'r Cyffredin graffu ar y mesur yn gywir.

Ychwanegodd Mr Kinnock, wnaeth bleidleisio yn erbyn y llywodraeth nos Fawrth, y byddai cynnal etholiad cyffredinol nawr yn "ddrwg iawn i wleidyddiaeth a'n democratiaeth".

"Os ydyn ni'n cael etholiad cyffredinol sy'n canolbwyntio ar Brexit, fydd hynny ond yn dda ar gyfer y rheiny sydd eisiau manteisio ar y sefyllfa a phegynnu barn, fel y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a Phlaid Brexit," meddai.

Aelodau Seneddol Cymreig

O ran y pleidleisio ar gyfyngu'r amserlen, fe wnaeth aelodau Llafur o Gymru, Plaid Cymru a'r un aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol o Gymru wrthwynebu, ynghyd ag AS Aberconwy Guto Bebb, sy'n eistedd fel aelod annibynnol.

Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi galw'r bleidlais ar yr amserlen yn "fuddugoliaeth i ddemocratiaeth".

Galwodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ar y llywodraeth i osod "amserlen resymol" yn ogystal â chyhoeddi asesiadau effaith i amlinellu "effaith eu cytundeb ar economi ein gwlad, a holl wledydd ac ardaloedd y DU".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyn-aelod Ceidwadol Guto Bebb bleidleisio yn erbyn y llywodraeth

Daeth y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio yn gynharach ddydd Mawrth yn erbyn cytundeb Boris Johnson gyda Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn galw ar Aelodau Seneddol i wrthod rhoi cymeradwyaeth i'r Mesur.

Fe wnaeth Mr Drakeford drydar ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin: "Rwyf yn falch bod Tŷ'r Cyffredin wedi cytuno â ni ei bod hi'n annerbyniol i ddisgwyl aelodau i graffu Bil mor bwysig mewn cyn lleied o amser."

Mae'n cynnal cynhadledd i'r wasg ar y cyd â Nicola Sturgeon, Prif Weinidog Yr Alban ddydd Mercher.

Mae'r ddau wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio rhuthro'r cytundeb ymadael trwy'r Senedd heb "graffu manwl" arno.

Pleidleisiau nos Fawrth

Mesur y Cytundeb Ymadael

O blaid: 329

Yn erbyn: 299

Amserlen ar gyfer Mesur y Cytundeb Ymadael

O blaid: 308

Yn erbyn: 322

Fe wnaeth y llywodraeth golli'r bleidlais ar gyfyngu'r amserlen craffu o 322 i 308.

Golygai hynny na fydd digon o amser i'r ddeddfwriaeth basio cyn 31 Hydref - y diwrnod mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl y bleidlais dywedodd Mr Johnson y byddai'n oedi'r broses ddeddfwriaethol, gan olygu na fydd rhagor o drafod na chyfle i gynnig newidiadau i'r mesur am y tro

Dywedodd Mr Johnson: "Rydym nawr yn wynebu mwy o ansicrwydd.

"Nawr mae'n rhaid i'r UE benderfynu sut i ymateb i gais y Senedd am oedi.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth gymryd yr unig lwybr cyfrifol a pharhau ein paratoadau ar gyfer gadael heb gytundeb.

"Tan bod yr Undeb Ewropeaidd wedi ymateb, fe fyddwn yn oedi'r ddeddfwriaeth yma."

Cais am estyniad

Fe wnaeth y llywodraeth gyflwyno eu Mesur Ymadael ar ôl dod i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref, boed yna gytundeb neu beidio.

Ond fe wnaeth Mr Johnson, yn unol â chyfraith newydd, orfod gofyn i'r UE am estyniad.

Dyw gwledydd yr UE heb ymateb eto i'r cais am estyniad, ond y gred cyffredinol yw na fyddan nhw'n gwrthod.