Galw am ACau locwm yn ystod cyfnod mamolaeth

  • Cyhoeddwyd
Bethan Sayed
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai AC Plaid Cymru, Bethan Sayed, sy'n feichiog ei hun i weld Aelod Cynulliad locwm i fynd i grwpiau cymunedol neu gyfarfodydd cyhoeddus ar ei rhan

Mae 'na alwadau am roi'r hawl i Aelodau Cynulliad gael rhywun arall i wneud y gwaith yn ystod cyfnod mamolaeth.

Daw hyn wrth i'r Aelod Seneddol Stella Creasy fod y person cynta' i hysbysebu am aelod 'locwm' tra'i bod i ffwrdd yn cael babi.

Yn feichiog ei hun, mae'r Aelod Cynulliad Bethan Sayed yn dweud bod angen polisi tebyg ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Bwrdd Taliadau'r Cynulliad, sy'n edrych ar gyflog a lwfansau Aelodau, ei fod yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i'r pwnc ar hyn o bryd.

'Cefnogaeth'

"Byddwn i'n disgwyl mynd ar famolaeth o gwmpas dechrau mis Mawrth," meddai wrth raglen Newyddion 9.

"Dwi ddim wedi dewis dyddiad penodedig ond dyna'r amserlen a bydden i eisiau cymryd cyfnod o famolaeth er mwyn treulio amser gyda'r babi fel byddai unrhyw riant eisiau gwneud.

"Ond wedyn eisiau sicrhau bod prosesau yn eu lle i helpu fi gyda hynny, ond does dim polisi ynglŷn â chefnogaeth staffio.

"Hoffwn i weld Aelod Cynulliad locwm i fod yn fi yn yr etholaeth, i fynd i grwpiau cymunedol neu gyfarfodydd cyhoeddus ar fy rhan."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Kirsty Williams wneud penderfyniadau ei hun gan fod "diffyg cyngor a dim rheolau clir am gyfnod mamolaeth"

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cael tri phlentyn yn ystod ei chyfnod fel Aelod Cynulliad. Cafodd ei merch hynaf yn 2001.

"Cafodd fy merch hynaf ei geni ar ddiwedd mis Medi ac roeddwn i nôl yn gweithio llawn amser yn yr adeilad yma ar ddechrau'r tymor ym mis Ionawr," meddai wrth Newyddion 9.

"Cefais gyfnod mamolaeth o'r lle hwn am dri mis ond mewn gwirionedd, roeddwn i'n gwneud gwaith etholaeth o fewn mater o wythnosau.

"Dwi'n credu bod pwysau gwahanol wedi bod arna' i. Fe wnes i roi pwysau ar fy hun ac roedd pwysau fod chi efallai ddim yn chwarae eich rhan yn y grŵp os nad oeddech o gwmpas i bleidleisio.

"Am fod diffyg cyngor a dim rheolau clir am gyfnod mamolaeth, roeddwn i'n gorfod gwneud penderfyniadau fy hun.

"Roedd 'na wahanol ffactorau ac wrth i fi edrych yn ôl, wnaeth arwain fi i fynd yn ôl i'r gwaith yn gynt na beth fydden i fod wedi eisiau".

Ymgynghoriad

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Taliadau: "Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Taliadau yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gymorth i Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys absenoldeb rhieni, boed yn absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, ar y cyd neu gyfnod mabwysiadu.

"Daw'r ymgynghoriad i ben ar 11 Tachwedd.

"Pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl sylwadau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau."