Cychwyn gwaith datblygu £6.5m yn Llangrannog a Glan-llyn
- Cyhoeddwyd

Darlun y penseiri o sut allai'r neuadd ymgynnull edrych ar ôl y trawsnewidiad yn Llangrannog
Bydd y gwaith gwerth £6.5m o ddatblygu gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn yn dechrau ddydd Gwener.
Mae'r prosiect yn cynnwys canolfan newydd ar gyfer aelodau hŷn yng Nglan-llyn Isa' a chanolfan chwaraeon dŵr newydd ar safle gwersyll Glan-llyn.
Bydd elfennau o safle Llangrannog yn cael eu moderneiddio hefyd, gan gynyddu nifer y llefydd aros.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tua 18 mis i'w gwblhau.

O'r chwith i'r dde: Huw Antur Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn, cyn-bennaeth Glan-llyn, John Eric Williams a Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fod y gwaith yn ddechrau ar brosiect "sylweddol a phwysig i'r Urdd".
"Rydyn ni hefyd wedi dod yn rhan bwysig o'r economi leol a'n huchelgais yw parhau i gael effaith gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018