Uwchraddio rhybudd am law trwm i oren ar gyfer y de

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd oren mewn grym rhwng 18:00 ddydd Gwener a 11:00 ddydd Sadwrn

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio ei rhybudd am law trwm i Gymru i un oren mewn rhai mannau.

Roedd rhybudd melyn eisoes mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru o 12:00 ddydd Gwener nes 13:00 ddydd Sadwrn.

Ond mae rhybudd oren bellach wedi'i osod ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru rhwng 18:00 ddydd Gwener a 11:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn disgwyl y bydd llifogydd yn achosi difrod i gartrefi a busnesau.

'Trwm a pharhaus'

Mae'n rhagweld oedi i drafnidiaeth hefyd, gyda bysiau a threnau'n gorfod cael eu canslo a ffyrdd yn cau.

Ychwanegodd bod toriad mewn cyflenwad pŵer yn debygol, a bod perygl posib i fywyd oherwydd llifogydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Bydd y glaw yn drwm a pharhaus ar draws de Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n agored i wynt o'r de-orllewin.

"Mae disgwyl i nifer o lefydd weld 60-80mm o law, gyda hyd at 100-120mm yn bosib ar dir uchel."