Llifogydd yn achosi trafferthion teithio ledled Cymru
- Cyhoeddwyd

Yr olygfa yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Sadwrn wrth i Afon Gwy orlifo
Mae ffyrdd a gwasanaethau teithio wedi cael eu heffeithio wrth i law trwm ddisgyn ar draws y rhan fwyaf o Gymru.
Daeth rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd i rym brynhawn Gwener, a bu'n weithredol dros Gymru gyfan tan 15:00 ddydd Sadwrn.
Y disgwyl oedd mai de-ddwyrain a de-orllewin Cymru fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan y glaw.
Ond roedd hyd yn oed eira wedi tarfu ar wasanaethau Rheilffordd yr Wyddfa ddydd Sadwrn hefyd.

Llun o eira sydd wedi achosi trafferthion i wasanaeth Rheilffordd yr Wyddfa
Dywed Traffig Cymru bod ffyrdd yng Ngheredigion a Phowys wedi'u gorlifo.
Doedd dim modd mynd drwy'r A483 o'r Drenewydd i Aberriw, ac fe dderbyniodd y gwasanaeth tân nifer o alwadau am lifogydd yn ardaloedd Talgarth ac Aberhonddu.
Roedd y gwasanaeth tân hefyd wrth law ar ôl i fenyw a'i phlentyn fynd yn sownd ar yr A483 yn ardal Garthmyl rhwng Y Trallwng a Threfaldwyn oherwydd y llifogydd.
Yng Ngheredigion, mae'r B4337 rhwng y bont yn Nhalsarn a'r gyffordd â'r B4342 tuag at Felinfach wedi ei chau oherwydd difrod llifogydd i wyneb y ffordd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio teithwyr trenau i edrych ar eu siwrnai cyn teithio.

Mae rhannau o ganol Llanfair-ym-Muallt dan ddŵr ddydd Sadwrn

Roedd y ffordd yma ar gau yn ardal Marchwiail yn Wrecsam - dim fod hynny wedi rhwystro'r gyrrwr yma
Yn y cyfamser mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion am lifogydd ar draws Cymru.
Mae manylion y rhybuddion llifogydd diweddaraf ar gael ar dudalen arbennig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019