Y Gynghrair Genedlaethol: Dagenham & Redbridge 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae rhediad gofidus Wrecsam yn parhau yn dilyn colled o 2-1 yn erbyn Dagenham & Redbridge brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Angelo Balanta y tîm cartref - a oedd heb ennill mewn pum gêm cyn heddiw - ar y blaen, cyn i Luke Young unioni'r sgôr.
Ond fe sgoriodd Chike Kandi yn fuan wedyn ac fe lwyddodd Dagenham & Redbridge i ddal ymlaen tan y chwiban olaf.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam ddau safle o waelod y tabl.