'Pam bod rhaid aros mor hir am weiren ddannedd?'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Senedd Ieuenctid Cymru wedi mynegi pryder bod cleifion yng ngorllewin Cymru'r gorfod aros am gyfnodau hir am driniaethau orthodontig.
Roedd Thomas Kendall o Lanbadarn ger Aberystwyth yn 12 oed pan gafodd wybod ei fod angen weiren ddannedd, ond mae'n dal yn aros amdani bron i chwe blynedd yn ddiweddarach.
Mae ASI Ceredigion yn galw am wasanaeth mwy cyson ar draws Cymru, gan ddweud bod hi'n annheg bod pobl mae'n ei gynrychioli yn gorfod teithio i dde Cymru am driniaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru bod disgwyl i system electroneg newydd fynd i'r afael ag "aneffeithlonrwydd y gorffennol wrth gyfeirio cleifion" yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae'r bwrdd ei hun yn cydnabod bod rhai cleifion yn aros am driniaethau orthodontig ond eu bod yn blaenoriaethu'r achosion mwyaf brys.
Dywedodd Thomas, 18, ei fod yn awyddus i gael triniaeth cyn mynd i'r brifysgol y flwyddyn nesaf.
"Maen nhw yn dweud dyle ti gael braces pan ti mwy ifanc," meddai.
"Pan ti yn heneiddio mae'n edrych yn fwy gwael. Dyna'r sefyllfa fi mewn - oherwydd ni'n byw yn [ardal bwrdd] Hywel Dda mae'n cymryd mwy o amser i gael nhw."
'Methu cael atebion'
Mae wedi cael asesiad cychwynnol ond bu'n rhaid teithio i Gaerfyrddin i weld unig orthodeintydd GIG y bwrdd iechyd.
Cysylltodd â BBC Cymru gan ofyn faint o bobl ifanc eraill yn y gorllewin sydd yn yr un sefyllfa, a pham fod pethau'n waeth nag yng ngweddill Cymru.
"Fi sydd wedi aros hiraf, ond 'dwi'n gwybod am ddwsinau o ffrindiau sydd wedi bod ar y rhestr am dair blynedd neu fwy," meddai.
"Rwyf wedi codi'r mater yma sawl tro ond dydyn ni byth i weld yn cael atebion gan Hywel Dda na Llywodraeth Cymru."
Wrth drafod y sefyllfa gydag Aelodau Senedd Ieuenctid y DU, mae'n dweud bod hi'n "ymddangos bod darparu triniaeth orthodontig i bobl ifanc yn wael ar draws y DU, ond dim cyn waethed ag yng ngorllewin Cymru".
"Fi'n poeni am y bobl ifanc sy'n mynd i gael eu troi i ffwrdd o gael y gwasanaeth dylen nhw gael. Mae pobl yn gadael Hywel Dda i fynd i dde Cymru i gael y gwasanaeth yn fan'na.
"Mae ddim yn deg. Dyle pob lle yng Nghymru gael yr un fath o sefyllfa, pobl yn cael eu gweld mewn amser penodol."
Mae cleifion dan 18 oed yn cael triniaeth orthodontig am ddim dan y GIG, ond wrth ddatganoli cytundebau yn 2006 roedd yna derfyn ariannol oedd yn cyfyngu faint o driniaethau allai saith bwrdd iechyd Cymru eu comisiynu bob blwyddyn.
Cyfyngiadau comisiynu 'artiffisial'
Erbyn 2014, roedd dros 4,000 o bobl ifanc yn aros am dair blynedd a hanner ar gyfartaledd am apwyntiad yn ardal Hywel Dda.
Cafodd y bwrdd rybudd fod ond modd trin 800 o gleifion bobl blwyddyn, a byddai'n cymryd pum mlynedd i glirio'r rhestrau aros hyd yn oed petai'r cyllid yn cael ei ddyblu.
Dywedodd Dr Stephen Gould, aelod o fforwm sy'n rhoi cyngor ar y maes orthodonteg i Lywodraeth Cymru, bod cyfyngu nifer y triniaethau'n artiffisial yn atal orthodeintyddion rhag dewis gweithio yn yr ardal.
Ond mae'n dweud bod llacio'r cap ariannol a phroses dendro newydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth.
"Rydw i bellach yn derbyn cyfeiriadau gan Hywel Dda yn fy neintyddfa yn Abertawe, sydd ddim yn ddelfrydol [i gleifion] o safbwynt teithio, ond mae'n helpu lleihau amseroedd aros," meddai.
"Mae yna dal tua 4,000 o gleifion dan 18 ar y rhestr, ond hen achosion yw'r rhan helaeth... gall pobl sy'n ymuno â'r rhestr nawr ddisgwyl gorfod aros yn agosach at flwyddyn a hanner na thair blynedd a hanner."
Dywedodd Dr Gould hefyd bod y driniaeth am ddim i gleifion sydd dan 18 oed pan maen nhw'n cael eu cyfeirio, waeth beth eu hoedran wrth dderbyn triniaeth, a bod pobl yn cael eu trin yn gynt pe byddai oedi'n arwain ar boen neu niwed parhaol.
Cyfeirio'n rhy gynnar
Yn ôl Jill Paterson o Fwrdd Iechyd Hywel Dda roedd 4,491 o blant a phobl ifanc yn aros am apwyntiad i'w hasesu ym mis Awst eleni.
"Yn hanesyddol, mae'r galw am wasanaethau orthodontig wedi bod yn uwch na lefel y gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu," meddai.
"Mae'n ymddangos bod y galw wedi dwysáu am fod cleifion yn cael eu cyfeirio'n rhy gynnar am driniaeth, cleifion oedd ddim mewn cyflwr addas i gael triniaeth, a chleifion nad oedd yn gymwys i gael triniaeth."
Ond dywedodd bod y bwrdd wedi gweld y gwelliant gorau trwy Gymru yn 2018-19 o ran sicrhau bod mwy o gleifion orthodontig yn cael eu gweld.
Ychwanegodd bod y bwrdd yng nghanol gwerthuso'r achosion ar y rhestrau aros, ac yn edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu comisiynu yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Hywel Dda wedi comisiynu mwy o driniaethau yn 2018-19 nag yn yr un o'r bum mlynedd ddiwethaf, a bod adolygiad annibynnol o'r farn bod adnoddau orthodontig yn "ddigonol".
Daeth yr adolygiad i'r casgliad mai aneffeithlonrwydd cyfeirio yn y gorffennol "yn hytrach na diffyg cyllid sydd wedi arwain at oedi", meddai llefarydd.
Ychwanegodd bod disgwyl i system electroneg newydd "wella safon cyfeirio a lleihau amseroedd aros".
Dywedodd Thomas: "Os ydy pethau'n troi allan fel maen nhw'n dweud, grêt, ond mae angen iddyn nhw wybod dydy hi ddim yn fater dibwys i bobl ifanc.
"Gall triniaeth hwyr ym mlynyddoedd yr arddegau wirioneddol effeithio ar hyder rhywun, a hyd yn oed eu cyfleoedd yn y dyfodol."