Gwahardd ymgeisydd Ceidwadol wedi honiad dymchwel achos

  • Cyhoeddwyd
Ross England yn Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross England wedi gweithio yn swyddfa Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns

Mae ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad wedi ei wahardd gan y blaid.

Cafodd Ross England ei ddewis fel ymgeisydd wyth mis wedi i farnwr yr Uchel Lys ei gyhuddo o ddymchwel achos yn ymwneud â threisio yn fwriadol.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson wrthod ymateb pan gafodd ei holi am ddiswyddo Mr England - oedd wedi ei enwebu ar gyfer etholaeth Bro Morgannwg.

Mae un cyn-AS Ceidwadol yn dweud bod angen i'r blaid gymryd yr hyn ddywedodd y barnwr "wirioneddol o ddifrif" ond osgoi "rhuthro i ddyfarnu".

Nos Fercher, dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Byron Davies: "Mae Ross England wedi ei wahardd hyd nes i'r mater gael ei gyflwyno i'r pwyllgor ymgeiswyr."

Honiadau

Roedd Mr England yn rhoi tystiolaeth mewn achos llys ym mis Ebrill 2018 pan wnaeth honiadau am hanes rhywiol y dioddefwr - honiadau mae'r achwynydd yn eu gwadu.

Dywedodd y barnwr yn yr achos, Stephen John Hopkins QC: "Rydych chi wedi llwyddo ar eich pen eich hun, ac nid oes amheuaeth nad oedd yn fwriadol ar eich rhan chi, i ddymchwel yr achos hwn."

Aeth y diffynnydd yn yr achos, James Hackett, a oedd yn ffrind i Mr England, ymlaen i gael ei ganfod yn euog o dreisio mewn achos newydd.

Nos Fercher, daeth cadarnhad bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwahardd Mr England.

Mewn datganiad, dywedodd y cadeirydd, yr Arglwydd Byron Davies: "Mae Ross England wedi ei wahardd hyd nes i'r mater gael ei gyflwyno i'r pwyllgor ymgeiswyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AS Llafur Jo Stevens ei fod yn "anhygoel" bod Mr England wedi ei ddewis fel ymgeisydd

Yn gynharach ddydd Mercher, cafodd yr achos ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin gan AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens.

Dywedodd ei fod yn "anhygoel" bod y Blaid Geidwadol wedi dewis Mr England fel ymgeisydd, a gofynnodd i Mr Johnson a fyddai'n ei ddiswyddo.

Atebodd y Prif Weinidog y byddai'n "amhriodol i mi wneud sylw ynghylch achos cyfreithiol sy'n parhau" - ond mae'r achos wedi dod i ben.

'Rhaid cymryd ein hamser'

Mae cyn-AS Gogledd Caerdydd, Craig Williams - ymgeisydd seneddol y blaid yn Sir Drefaldwyn - wedi dweud wrth raglen Wales Live ei fod ond wedi dod i wybod am yr hyn ddigwyddodd yn sgil adroddiadau'r wasg yn y dyddiau diwethaf.

Ond mae'n pwysleisio'r angen i'r blaid beidio â "rhuthro i ddyfarnu".

"Rwy'n meddwl bod y blaid wedi gwneud y peth cywir gyda'r gwaharddiad a bod angen i'r pwyllgor ymgeiswyr edrych ar y mater yn ofalus iawn.

"Mae'n anodd iawn i ddarllen a chlywed be' ddywedodd y barnwr... ond dylen ni gymryd ein hamser a dylai'r blaid ddilyn y broses.

"Mae'r holl bleidiau wedi dysgu o achos Carl Sargeant ac mae angen i ni wneud hyn yn gywir."

Ychwanegodd ei fod yn deall bod Mr England ond wedi ei wahardd fel ymgeisydd, ac nid fel aelod o'r blaid.