Cleifion Cymru angen cyffur ffibrosis systig 'ar frys'
- Cyhoeddwyd
Mae claf ffibrosis systig ifanc a'i mam yn apelio ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyffur sy'n ymestyn bywyd i fod ar gael yng Nghymru.
Mae Rebecka Bow a'i merch Sofia, wyth oed, yn erfyn ar Weinidogion yng Nghymru i ddod i gytundeb gyda gwneuthurwyr y cyffur Orkambi pan fydd trafodaethau'n digwydd ddydd Gwener.
Dywedodd Sofia o dde Cymru ar raglen BBC Victoria Derbyshire y byddai cael mynediad at y cyffur yn "golygu cymaint iddi".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydden nhw'n cwrdd â chwmni Vertex ddydd Gwener, wyth niwrnod wedi'i i'r GIG yn Lloegr gadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r cyffur.
Trafodaethau rhwystredig
Mae'r cyffur ar gael mewn gwledydd fel America, Awstralia, a Gweriniaeth Iwerddon ac mae'r gost bresennol yn fwy na £100,000 y flwyddyn i bob claf.
Ond roedd awgrym yn y gorffennol bod trafodaethau gyda Vertex wedi bod yn rhwystredig.
Mae'r cyffur yn gwella defnydd o'r ysgyfaint ac yn lleihau problemau anadlu ac mae modd ei roi i blant mor ifanc â dwy oed.
Mae dau gyffur arall sy'n cael eu cynhyrchu gan Vertex hefyd yn rhan o'r cytundeb - Symkevi a Kalydeco.
Cyfrinach
Llwydodd trafodaethau yn Lloegr i sicrhau'r cyffur yn rhatach na'r pris gwreiddiol o £100,000, ond mae'r ffigwr derfynol wedi'i gadw'n gyfrinach.
Dywedodd Ms Bow: "Rydym yn falch iawn fod gwledydd eraill wedi cael y cyffur, ond yn anffodus mae Cymru ac Ynysoedd y Sianel dal heb gael y cyffuriau, rydym yn dal i aros.
"Mae'n rhaid i ni gael y cytundeb yma ar frys, allwn ni ddim aros amdano," meddai.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething bod y Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r GIG yn Lloegr yn ystod y trafodaethau ac y bydden nhw'n cwrdd â Vertex i drafod pa delerau fyddai'n weithredol yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018