Cynllun ailgylchu newydd yn Sir Benfro yn 'anymarferol'

  • Cyhoeddwyd
Bagiau ailgylchu
Disgrifiad o’r llun,

Bagiau ailgylchu bydd yn cael eu defnyddio yn Sir Benfro

Mae cynllun ailgylchu a gwastraff newydd Sir Benfro wedi cael ei ddisgrifio fel un "anymarferol".

O 4 Tachwedd, bydd disgwyl i 61,000 o gartrefi ddefnyddio cymysgedd o chwech o fagiau a bocsys i ddidoli eu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu.

Rhybuddiodd y cynghorydd sir, John Davies y gallai'r cynllun newydd arwain at fwy o achosion o dipio anghyfreithlon.

Yn ogystal mae pryderon ymhlith trigolion bydd hi'n anodd i bobl hŷn ymdopi gyda'r cynllun newydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ond dywedodd Cyngor Sir Benfro fod rhaid gweithredu'r cynllun newydd er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Marjorie Sullivan ar ben y grisiau mae'n rhaid iddi gerdded i fyny er mwyn dosbarthu ei gwastraff

Mae Marjorie Sullivan yn 70 oed ac yn byw ar ffordd serth yn Abercych gyda'i gŵr sydd yn anabl.

Dywedodd hi gwrthododd y cyngor gasglu gwastraff o'i chartref.

Dywedodd Ms Sullivan na fyddai'n gallu cario'r blychau a'r bagiau i fyny'r grisiau oherwydd ei phroblemau iechyd.

"Sai'n mynd i neud e. Galla i ddim neud e. Dydyn nhw ddim wedi meddwl e trwyddo."

Yn ôl Ms Sullivan, ffyrdd cul yr ardaloedd gwledig yn Sir Benfro yw un o'r prif heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

"Maen nhw'n meddwl am bobl sydd yn byw yn y dref, ond nid am bobl sydd yn byw yn y wlad."

Mae Cynghorydd Sir Benfro, John Davies hefyd wedi lleisio ei farn.

"Dwi'n deall y dyletswyddau a'r targedau, ond mewn sir fel Sir Benfro sydd yn 75% wledig, dyw e ddim yn ymarferol i gael chwech cyfarpar i lenwi," meddai.

"Mae nifer yn dweud: ''Dyn ni ddim yn mynd i boeni.' Mae'n codi'r cwestiwn felly o bwy sydd yn mynd i daflu eu gwastraff bant yn anghyfreithlon?"

Mae gan y cynllun ailgylchu newydd sach am gardfwrdd, bocs am bapur, sach am blastig a metel, blwch am wastraff bwyd, bocs am wydr a bag eglur am fatrïau bach.

Bydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn cael eu casglu'n wythnosol, tra bydd bagiau sbwriel yn cael eu pigo lan pob tair wythnos - gydag uchafswm o dri bag am bob tŷ, er bydd tai mwy yn gallu gofyn am fwy o fagiau os oes angen.

Ond bydd 3,000 o gartrefi ddim yn cael eu cynnwys yn y cynllun am 18 mis, yn cynnwys rhannau o Aberdaugleddau a Penfro.

Dywedodd y cyngor nad oedd y cynllun "byth wedi cael ei gynllunio i gael ei weithredu ym mhob cartref o'r cychwyn cyntaf."

Pwysau i gyrraedd targed

Fel pob cyngor yng Nghymru, mae Sir Benfro o dan bwysau i gyrraedd targed y llywodraeth o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2024.

Bydd cynghorau'n cael eu cosbi yn ariannol os na fyddan nhw'n cwrdd â thargedau.

Er mwyn cyrraedd y targedau, dywedodd y cyngor bydd rhaid i drigolion ailgylchu mwy o ddeunyddiau yn y cartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cyfradd ailgylchu Sir Benfro o 2017 i 2019 wedi cynyddu gan 5% - y cynnydd mwyaf ymhlith holl siroedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Sir Benfro y gallai pobl gysylltu â nhw os ydyn nhw'n cael trafferthion

Dywedodd pennaeth gwasanaethau amgylcheddol Cyngor Sir Benfro, Richard Brown bod yr awdurdod wedi "datgan argyfwng amgylcheddol".

Ychwanegodd Mr Brown bod "angen cyrraedd targedau".

"Mae yna ddirwyon ariannol difrifol os nad ydyn ni'n cyrraedd y targedau yma," dywedodd Mr Brown.

"O bosib £200 y dunnell am bob tunnell rydym ni'n brin ohono.

"Gallai rhedeg mewn i gannoedd ar filoedd o bunnoedd, os nad miliynau.

"Os nad oes gan bobl neb i roi cymorth gyda rhoi'r sbwriel allan, byddwn ni'n cynnig helpu casglu'r sbwriel," meddai.

"Mae hwn yn berthnasol i ardaloedd ble does neb arall o fewn y cartref neu gymydog cyfeillgar yn gallu helpu.

"Dyw llawer o bobl ddim angen rhoi blychau allan pob wythnos."