Pro14: Scarlets 17-13 Cheetahs

  • Cyhoeddwyd
Yr asgellwr Steff Evans yn sgorio cais yn ystod ei ganfed ymddangosiad i'r ScarletsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Steff Evans yn sgorio cais yn ystod ei ganfed ymddangosiad i'r Scarlets

Yng nghanol y glaw ym Mharc y Scarlets y tîm cartref oedd yn fuddugol wedi iddynt drechu'r Cheetahs o 17 i 13.

Roedd hon yn gêm arbennig i Steff Evans wrth iddo chwarae am y canfed tro - fe chwaraeodd am y tro cyntaf yn 2014.

Wedi llwyddiant De Affrica yng Nghwpan y Byd fore Sadwrn roedd yna obeithion mawr ymhlith y Scarlets na fyddai'r Boks yn cael buddugoliaeth arall.

Yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf wedi cais gan y capten Tian Meyer ac roedd y trosiad yn llwyddiannus ond wedi 21 munud fe ddaeth cais i Steff Evans a fe unionodd cicio Dan Evans y sgôr i 7-7.

O fewn ryw chwarter awr cais arall i'r Scarlets - Kieran Hardy y tro hwn ac wedi cicio llwyddiannus gan Dan Jones unwaith eto dyblwyd sgôr y Scarlets i 14 ac 14-7 oedd y sgôr ar yr hanner.

Ar ddechrau'r ail hanner fe ddaeth dwy cig gosb i'r Cheetahs â'r sgôr i 14-13 ond wedi cic gosb arall i'r Scarlets roedd yna bedwar pwynt ynddi.

Y sgôr terfynol oedd 17-13.

Seren y gêm oedd Josh Macleod.

Mewn neges ar eu cyfrif Twitter dywedodd llefarydd ar ran y Scarlets nad "oedd y fuddugoliaeth yn un bert ond mae'n fuddugoliaeth arall" ac fe ddiolchont i'r cefnogwyr.