Adfer gwasanaeth trên rhwng gogledd a de Cymru yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
TracFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rheilffordd trwy Sir Henffordd ei difrodi mewn tywydd garw'r penwythnos diwethaf

Mae trenau uniongyrchol rhwng gogledd a de Cymru wedi ailddechrau ddydd Sadwrn ar ôl i'r gwaith o adfer y rheilffordd gael ei gwblhau yn gynnar.

Fe wnaeth llifogydd achosi difrod i'r sylfaen o dan y traciau ger Henffordd y penwythnos diwethaf.

Doedd dim modd i drenau redeg rhwng Y Fenni a Henffordd am bron i wythnos oherwydd hynny, gyda bysiau'n rhedeg yn eu lle.

Mae'r gwasanaeth wedi cael ei adfer ddydd Sadwrn, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio y gallai fod oedi oherwydd cyfyngiadau cyflymder yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae peirianwyr wedi llwyddo i orffen y gwaith o drwsio'r difrod ddeuddydd yn gynnar

Y bwriad yn wreiddiol oedd ailagor y llwybr ddydd Llun, ond dywedodd Network Rail fod peirianwyr wedi llwyddo i orffen y gwaith o'i adfer ddeuddydd yn gynnar.

Fe wnaeth y cwmni ddiolch i deithwyr am eu hamynedd tra'u bod yn gweithio ar y trac.

'Gweithio'n ddiflino'

Dywedodd Chris Howchin o Network Rail ei fod "ar ben fy nigon" eu bod wedi gallu "adfer cyswllt rheilffordd allweddol i Gymru a'r Gororau" yn gynt na'r disgwyl.

"Mae'r tîm cyfan wedi gweithio'n ddiflino mewn tywydd anodd ac mae'n ganlyniad gwych i deithwyr," meddai.

Cafodd y difrod ei achosi mewn tywydd garw y penwythnos diwethaf, wedi i rybudd oren am law trwm fod mewn grym ar gyfer nifer o ardaloedd.