'Sioeau amaethyddol angen gwirfoddolwyr'

  • Cyhoeddwyd
Archif Sioe Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioe Caernarfon wedi bod yn cael ei chynnal ers y 19eg ganrif

Mae angen mwy o wirfoddolwyr i ddiogelu dyfodol sioeau amaethyddol bychain, yn ôl cadeirydd pwyllgor sioe Gogledd Cymru sy'n cael ei chynnal ger Caernarfon.

Mae pwyllgor y sioe yn ei chael hi'n anodd wrth i nifer y gwirfoddolwyr ostwng o 30 i chwech yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ers yr argyfwng clwy'r traed a'r genau yn 2001 mae pum sioe yng Ngwynedd naill ai wedi uno neu dod i ben.

Eleni cafodd sioe Gogledd Cymru ei chanslo oherwydd ofnau am ffliw ceffylau.

Bydd cyfarfod blynyddol y sioe yn cael ei gynnal ganol fis Tachwedd ac mae yna alwad ar i ddarpar wirfoddolwyr i ddod yno i helpu.

Dywed cadeirydd y sioe, Peter Rutherford, bod hi'n mynd yn "anoddach" bob blwyddyn.

"Mae'r pwyllgor yn poeni'n fawr nad oes yna genhedlaeth newydd o bobl ifanc yn ymgymryd â dyletswyddau o fewn y pwyllgor.

"Nid dim ond yn ein sioe ni ond mae sawl sioe trwy Brydain yn wynebu yr un ofnau.

"Wrth i ni fynd yn hŷn ry'n am ymddeol, mae llawer ohonom wedi bod wrthi am amser hir ac mae'n anodd iawn cael pobl i ddod yn ein lle ar bwyllgorau - ond mae'n bwysig i'r calendr ffermio bod y sioeau yma yn cadw i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Peter Rutherford bod angen mwy o ffermwyr ifanc i gadw'r sioeau i fynd

Ers 2001 mae sioeau Pontllyfni, Pwllheli, Eifionydd, Cricieth a Threfor wedi uno neu dod i ben - a mae sioe Gogledd Cymru yng Nghaernarfon a sioe Nefyn ymhlith yr ychydig sydd ar ôl.

Dywed Mr Rutherford bod yn well gan rai ffermwyr deithio i sioeau amaethyddol mwy a bod cyfyngiadau tynn yn gallu atal pobl rhag cystadlu.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gyfathrebu'n well gyda phobl ifanc - mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno a gweld os oes modd ei wella.

"Ond mi fyddai'n eitha neis petai pobl yn dod atom ni hefyd i gynnig cymorth."