Pro14: Gleision 23-33 Munster

  • Cyhoeddwyd
Rey Lee-LoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rey Lee-Lo yn ystod ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision y tymor hwn wedi iddo fod yn chwarae i Samoa yng Nghwpan y Byd

Roedd yna golled arall i'r Gleision ddydd Sadwrn yn y Pro14 - y tro hwn yn erbyn Munster.

Dyma bedwaredd gêm lwyddiannus i Munster yn y Pro14 a'r bedwaredd golled allan o bump i'r Gleision.

Roedd hi'n gyfartal ar ddiwedd yr hanner cyntaf er mai Munster oedd yn ymosod fwyaf effeithiol.

Cloete y blaen asgellwr a groesodd i Munster ac ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd yna gais i'r Gleision gan y prop Domachowski.

Yn yr ail hanner daeth grym ymosodol Munster yn amlwg gyda thri chais - dau i Mathewson wedi eu creu gan y canolwr Arnold ac un i'r asgellwr Nash.

Fe gafodd y Gleision gais cysur yn y munudau olaf wrth i Nick Williams groesi'r gwyngalch.

Daeth 11 pwynt y Gleision o droed Jarrod Evans a daeth 13 pwynt i Munster o droed J J Hanrahan.

Y sgôr terfynol Gleision Caerdydd 23 Munster 33.