Plaid Cymru: 'Neb ag uchelgais uwch ar gyfer Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n lansio ei hymgyrch etholiad cyffredinol ddydd Llun gan ddweud bod dim un blaid arall "ag uchelgais uwch ar gyfer Cymru".
Mewn araith yn Ynys Môn, dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price bod "Cymru'n cael ei dal yn ôl gan San Steffan".
Sedd Ynys Môn yw prif darged y blaid wrth geisio sicrhau nifer uwch o ASau na'r pedwar presennol.
Mae'r blaid yn galw am refferendwm arall ar Brexit, ac fe fyddai'n ymgyrchu o blaid aros yn yr UE.
Yn y lansiad ym Mhorthaethwy, dywedodd Mr Price bod "dim pen draw i uchelgais Plaid Cymru ar gyfer Cymru".
"Rydym yn gwybod beth yw potensial ein gwlad. Rydym yn gwybod beth allwn ni gyflawni. A bydd Plaid Cymru yn gyson yn mynnu mwy ar ran Cymru," meddai.
"Ond y gwir yw, mae Cymru'n cael ei dal yn ôl gan San Steffan. Rydym ar waelod pob tabl posib.
"Mae ein heconomi wedi cael ei hesgeuluso am ganrif a mwy, ac mae yna deuluoedd ym mhob rhan o'r wlad yma sy'n byw mewn tlodi, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.
"Mae hi bellach yn ddiamau ei bod hi'n amser am newid."
Wrth siarad gyda BBC Cymru, ychwanegodd Mr Price: "Rydym ni ar waelod pob tabl sydd werth sôn amdano - mae tlodi plant ar gynnydd ac mae disgwyliad einioes yn disgyn.
"Y ffordd i ni allu datrys hyn yw nid drwy roi ein ffydd yn Jeremy Corbyn neu Boris Johnson ond drwy roi ffydd ynddo ni'n hunain a thrwy anfon y nifer fwyaf o ASau Plaid i San Steffan - dyna sy'n mynd i wneud pwy bynnag sy'n eistedd yn Rhif 10 Downing Street ar 13 Rhagfyr i wrando ar Gymru."
Polisïau 'trawsnewidiol'
Mae Plaid Cymru hefyd yn ymgyrchu dros "Chwyldro Swyddi Gwyrdd", creu system gyfreithiol Gymreig, trosglwyddo pwerau plismona o San Steffan i Fae Caerdydd a sefydlu cronfa gwerth £50m i benodi 1,600 o swyddogion heddlu newydd.
Mae addewidion eraill a gyhoeddwyd cyn y lansiad yn ymwneud â materion sydd eisoes wedi'u datganoli - gofal cymdeithasol, gofal plant a chodi tai fforddiadwy.
Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid bod modd cyfiawnhau ymgyrchu ar faterion sydd wedi'u datganoli gan fod San Steffan yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu cyllido.
"Mae'n ffaith drist bod y cyfryngau dal ddim yn deall datganoli, felly mae'n rhaid i ni drafod yr holl faterion sy'n bwysig ym mywydau pobl," meddai'r ffynhonnell.
"Boed y cyfryngau'n ddryslyd ai peidio, rydym yn ymroddi i bolisïau trawsnewidiol a fydd yn rhoi dyfodol gwell i bobl Cymru."
Yn Etholiad Cyffredinol 2017, fe enillodd Plaid Cymru bedair sedd, ond roedd yna fwyafrifoedd bach iawn yn etholaethau Arfon (92) a Cheredigion (104).
Fe gollodd ymgeiswyr y blaid eu blaendaliadau mewn 16 o'r 40 etholaeth yng Nghymru ar ôl sicrhau llai na 5% o'r bleidlais yno.
Daeth y blaid yn ail yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai, gan wneud yn well na'r Blaid Lafur am y tro cyntaf mewn etholiad Cymru gyfan.
Fe alwodd Mr Price ym mis Medi i ymgyrchu dros ganslo Brexit heb refferendwm pellach petai yna etholiad cyffredinol brys.
Pleidiau'n cydweithio?
Ond yng nghynhadledd Plaid Cymru ym mis Hydref, fe wnaeth aelodau gymeradwyo polisi i gefnogi refferendwm arall oni bai bod yna bosibilrwydd o Brexit heb gytundeb.
Er nad yw'r posibilrwydd o Brexit digytundeb heb ddiflannu'n llwyr, mae Boris Johnson yn ymgyrchu yn yr etholiad ar sail cytundeb newydd rhyngddo a'r UE.
Cytunodd Plaid Cymru a'r Blaid Werdd i beidio ag ymgeisio yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Awst er mwyn osgoi rhannu'r bleidlais Aros.
Er gwaethaf adroddiadau'n awgrymu bod yna gytundeb ehangach ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr, mae ffynonellau Plaid yn dweud bod trafodaethau'n parhau o fewn a rhwng y pleidiau.
Ychwanegodd Mr Price: "Mae'n gyfnod unigryw. Ddylen ni edrych i gael gymaint o ASau sydd o blaid aros [yn yr UE] a phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2019