Ymadawiad Bennett yn golygu mai ond un AC UKIP sydd ar ôl
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad UKIP, Gareth Bennett wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y blaid er mwyn eistedd fel aelod annibynnol, sy'n gadael ond un aelod o'r blaid ar ôl yn y Cynulliad.
Dim ond Neil Hamilton sydd nawr ar ôl fel aelod o UKIP, wrth i Mr Bennett ddweud ei fod yn gadael er mwyn gallu cefnogi cytundeb Brexit y Prif Weinidog, Boris Johnson.
Mr Bennett yw'r chweched AC UKIP i adael y blaid ers refferendwm yr UE yn 2016.
Ar ôl dod i'r brig ar draws y DU yn ystod etholiadau Ewrop yn 2014, fe wnaeth UKIP orffen yn wythfed ym mis Mai, gan golli ei holl aelodau o senedd Ewrop i Blaid Brexit - sy'n cael ei arwain gan gyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage.
Mae UKIP a Phlaid Brexit yn dweud nad yw'r cytundeb presennol sydd wedi'i lunio gan Boris Johnson i adael yr UE yn "Brexit go iawn".
Yn ystod cynhadledd UKIP yng Nghasnewydd ym mis Medi, dywedodd Mr Bennett fod y blaid yn "arbenigo ar ffraeo gyda'i gilydd".
Mewn datganiad, dywedodd Mr Bennett: "Mae'r cyhoedd wnaeth bleidleisio i adael yr UE wedi disgwyl dros dair blynedd a hanner a dydyn ni dal heb adael.
"Mae yna berygl mawr o hynny ddigwydd mewn gwirionedd, os na fydd cytundeb Boris Johnson yn mynd drwodd, yna fyddwn ni ddim yn gadael o gwbl.
"Mae'r rheiny ohonom ni oedd eisiau cytundeb caletach nawr yn sylweddoli mai cytundeb Boris yw'r gorau y gallwn gael ar hyn o bryd," meddai.
Fe wnaeth pedwar cyn ACau UKIP, Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands i gyd ymuno â Phlaid Brexit ym mis Mai, roedd tri ohonyn nhw eisoes wedi gadael UKIP i eistedd yn annibynnol.
Fe wnaeth Michelle Brown adael grŵp UKIP ym mis Mawrth ac mae hi'n parhau'n AC annibynnol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019