ACau yn pleidleisio o blaid gwahardd Gareth Bennett

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd 48 o ACau o blaid y gwahardd Mr Bennett

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwahardd arweinydd grŵp UKIP o fewn y cynulliad am saith diwrnod.

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod Gareth Bennett wedi torri rheolau yn ymwneud ag ymddygiad aelodau.

Mae Mr Bennett wedi ei wahardd am wythnos heb dâl ar ôl iddo gyhoeddi fideo lle cafodd delwedd o wyneb Joyce Watson ei osod ar gorff barforwyn mewn ffrog â gwddf isel.

Cafodd y fideo ei ddisgrifio gan Ms Watson fel deunydd "rhywiaethol oedd yn amlwg yn wreig-gasaol".

Daeth adroddiad y Pwyllgor Safonau ar ôl i ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon, Douglas Bain, benderfynu fod y fideo yn iselhau yr AC Llafur, ac yn ymosodiad personol.

Cafodd Mr Bain ei benodi ar ôl i Gomisiynydd y Cynulliad, Sir Roderick Evans, yn wreiddiol wrthod ymchwilio i'r fideo, gan ddweud nad oedd yn rhywiaethol.

Fe bleidleisiodd 48 o ACau o blaid y gwaharddiad gydag un yn gwrthwynebu ac un yn ymatal rhag pleidleisio.