Etholiad Cyffredinol 2019: Canllaw syml
- Cyhoeddwyd
Mae prif bleidiau'r DU yn paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.
Mae etholiadau cyffredinol i ddewis llywodraeth i fod i gael eu cynnal bob pum mlynedd, ond dyma'r trydydd etholiad ers 2015.
Bydd cyfanswm o 650 o bobl yn cael eu dewis yn Aelodau Seneddol (ASau), i benderfynu ar ddeddfau a pholisïau.
Mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol gan bleidleiswyr i gynrychioli buddiannau eu hetholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'r rhan fwyaf yn perthyn i blaid wleidyddol, ond mae rhai yn sefyll fel aelodau annibynnol.
Mae 650 o ASau yn y Tŷ. Mae gan Gymru 40 o ASau, gan fod gan Gymru 40 o etholaethau.
Caiff ASau eu hethol i Dŷ'r Cyffredin, un o'r ddwy siambr seneddol yn Llundain, sy'n gartref i lywodraeth y DU.
Beth sy'n poeni pleidleiswyr fwyaf - Brexit neu'r Gwasanaeth Iechyd?
Mae cynigion manwl ar bopeth - o'r economi i amddiffyn a phlismona - wedi'u nodi mewn maniffestos cyn unrhyw etholiad cyffredinol.
Yn y bôn, llyfryn yw maniffesto sy'n cynnwys holl syniadau a pholisïau'r pleidiau. Gan amlaf, caiff maniffestos eu cyhoeddi yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol. Os yw plaid yn ennill yr etholiad, mae'n aml yn cael ei barnu yn ôl faint o addewidion y maniffesto y mae'n llwyddo i'w cyflawni fel llywodraeth.
Daw'r addewidion hyn gan bleidiau gwleidyddol y DU - grwpiau o bobl sy'n credu yn yr un materion gwleidyddol ac yn dod at ei gilydd i geisio ennill grym.
Mae'r materion y mae pleidleiswyr y DU yn poeni fwyaf amdanyn nhw wedi newid cryn dipyn, yn ôl yr arolygon barn.
Mae Brexit wedi dod yn bwnc mawr ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a mewnfudo oedd y pethau oedd yn peri'r pryder mwyaf i bleidleiswyr yn 2015.
Y GIG - a sefydlwyd yn 1948 - yw'r gwasanaeth gofal iechyd cenedlaethol sy'n cael ei ariannu gan y llywodraeth i ddarparu diagnosis a thriniaeth am ddim i ddinasyddion y DU.
Roedd llawer llai o ddiddordeb yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), sef undeb gwleidyddol ac economaidd 28 o aelod-wladwriaethau y mae'r DU yn bwriadu ei adael.
Nawr, fodd bynnag, Brexit - sef ymadawiad y DU â'r UE - yw'r mater mwyaf o bell ffordd.
Ffordd gryno o ddweud 'British exit' yw Brexit, ac mae'n cyfeirio at y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Pam cael etholiad nawr?
Bron i dair blynedd a hanner ar ôl i'r DU bleidleisio dros Brexit yn refferendwm 2016, nid yw hynny wedi digwydd.
Yn refferendwm Mehefin 2016, pleidleisiodd y DU 52% i 48% i adael yr UE. Yn wreiddiol, dyddiad gadael y DU oedd 29 Mawrth 2019 ac yna 31 Hydref 2019. Erbyn hyn, y dyddiad yw 31 Ionawr 2020 oni bai y gellir cytuno ar fargen ymadael yn gynharach.
Mae gwahaniaeth barn rhwng gwleidyddion: mae rhai eisiau i'r DU adael yr UE cyn gynted â phosib, byddai'n well gan rai refferendwm arall, ac eraill i ganslo Brexit yn gyfan gwbl.
Nid oes gan y Prif Weinidog Boris Johnson ddigon o ASau i basio deddfau newydd yn hawdd.
Daeth Boris Johnson yn brif weinidog y DU ym mis Gorffennaf 2019, gan olynu Theresa May yn 10 Downing Street. Yn y gorffennol, gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Tramor Mrs May a chyn hynny roedd yn faer Llundain pan gynhaliodd y ddinas Gemau Olympaidd 2012.
Cyn dod yn AS, yn 2001, Mr Johnson oedd golygydd y cylchgrawn Spectator, a bu yn y rôl honno tan 2005, pan ddaeth yn weinidog addysg uwch yr wrthblaid.
Mae'n gobeithio y bydd etholiad cynnar yn cynyddu nifer yr ASau Ceidwadol, sy'n golygu y bydd ei gynlluniau Brexit yn haws i'w cyflawni.
Roedd disgwyl i'r etholiad cyffredinol nesaf fod yn 2022, ond mae Senedd San Steffan bellach wedi cytuno i gynnal etholiad cynnar.
Sut mae'r pleidleisio'n gweithio?
Mewn etholiad cyffredinol, mae 46 miliwn o bleidleiswyr y DU yn cael eu gwahodd i ddewis AS ar gyfer eu hardal - un o 650 o etholaethau.
Gall unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn bleidleisio, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru ac yn ddinasyddion Prydeinig neu'n ddinasyddion cymwys y Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon.
Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o bleidleisio na phobl ifanc.
Yn etholiad cyffredinol 2017, pleidleisiodd 59% o bobl 20 i 24 oed, o'i gymharu â 77% o bobl 60 i 69 oed.
Mae'r pleidleisio'n digwydd mewn gorsafoedd pleidleisio lleol, wedi'u sefydlu mewn llefydd fel eglwysi a neuaddau ysgol. Mae pleidleiswyr yn rhoi croes ar y papur pleidleisio wrth ochr enw'r ymgeisydd o'u dewis ac yn gollwng y papur i'r blwch pleidleisio sydd wedi'i selio.
Sut mae'r enillwyr yn cael eu dewis?
Yr ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob etholaeth sy'n cael ei ethol/hethol i Dŷ'r Cyffredin.
Er mwyn ennill, yn syml, mae angen mwy o bleidleisiau arnyn nhw nag unrhyw un maen nhw'n sefyll yn ei erbyn. Gallent dderbyn llai na hanner y pleidleisiau yn eu hetholaeth.
Mae'r rhan fwyaf o ASau yn cynrychioli plaid wleidyddol ond mae rhai yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.
Mae unrhyw blaid sydd â mwy na hanner yr ASau (326) yn Nhŷ'r Cyffredin fel arfer yn ffurfio'r llywodraeth. Gall pleidiau sydd ymhell o dan 50% o'r bleidlais gipio grym o ganlyniad i system bleidleisio'r DU.
Mae'r DU yn defnyddio system bleidleisio cyntaf i'r felin. Mae'n golygu mai'r ymgeisydd lleol sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill - a'r blaid sydd â'r nifer fwyaf o ymgeiswyr llwyddiannus sy'n ffurfio llywodraeth. Felly nid yw nifer y pleidleisiau y mae pleidiau yn eu derbyn yn cael effaith ar bwy sy'n ennill yr etholiad.
Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif o ASau, gall yr un sydd â'r mwyaf ffurfio clymblaid - neu bartneriaeth - gydag un neu fwy o bleidiau eraill i ennill rheolaeth.
Nid yw'r cyhoedd yn pleidleisio'n uniongyrchol dros y Prif Weinidog. Mae'n cael ei ddewis/dewis gan ASau'r blaid fuddugol a phenodir y Prif Weinidog gan y Frenhines, ac mae'n ddyletswydd arni i ddilyn eu cyngor.
Beth ddigwyddodd yn yr etholiad diwethaf yn 2017?
Y Ceidwadwyr neu'r Blaid Lafur sydd wedi ennill pob etholiad ers 1922.
Dyna'r ddwy blaid fwyaf yn etholiad 2017, ond nid oedd gan y naill na'r llall ddigon o ASau i lunio llywodraeth fwyafrifol. Y Ceidwadwyr oedd y blaid fwyaf ac fe wnaethant weithio mewn partneriaeth â'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) er mwyn ennill pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ers yr etholiad, mae'r Ceidwadwyr a Llafur wedi colli ASau, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir.
Ail siambr y Senedd yw Tŷ'r Arglwyddi.
Tŷ'r Arglwyddi yw ail siambr Senedd y DU. Mae'n annibynnol o Dŷ'r Cyffredin ond mae'n rhannu'r rôl o lunio deddfau, tra hefyd yn craffu gwaith y llywodraeth. Mae aelodau yn cael teitl fel Arglwydd, nid ydynt yn cael eu hethol, nid ydynt yn cynrychioli etholaethau ac nid yw'r mwyafrif yn perthyn i unrhyw blaid.
Nid yw aelodau'r Tŷ'r Arglwyddi yn cael eu hethol ond fe'u penodir gan y Frenhines, ar gyngor y Prif Weinidog.
Pwy sy'n gallu sefyll i fod yn Aelod Seneddol?
Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad, gall y rhan fwyaf o bobl sefyll fel ymgeisydd, cyn belled â'ch bod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon sy'n byw yn y DU.
Rhaid iddyn nhw hefyd dalu blaendal o £500, a fydd yn cael ei golli os na fyddan nhw'n cael o leiaf 5% o'r bleidlais yn eu hetholaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni rhai amodau - ni all carcharorion, gweision sifil, barnwyr ac aelodau'r heddlu a'r lluoedd arfog sefyll.
Pryd fyddwn ni'n gwybod y canlyniad?
Ar ddiwrnod etholiad cyffredinol, bydd y pleidleisio'n digwydd rhwng 07:00 a 22:00. Mae'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi dros nos a'r diwrnod canlynol.
Pan fyddwn yn gwybod y canlyniad, mae arweinydd y blaid fuddugol, os oes un, yn ymweld â Phalas Buckingham i ofyn i'r Frenhines am ganiatâd i lunio llywodraeth newydd.
Unwaith bydd ganddyn nhw hynny, sy'n fater o ffurfioldeb, maen nhw'n dychwelyd i gartref traddodiadol y Prif Weinidog yn 10 Downing Street.
Yn aml, byddan nhw'n sefyll y tu allan i draddodi araith am gynlluniau eu plaid ar gyfer y blynyddoedd i ddod.