Eira'n arwain at amodau 'peryglus' ar y ffyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi bod yn achosi trafferthion teithio ar draws gogledd a chanolbarth Chymru fore Sadwrn.
Ym Mhowys bu'r A458 ynghau i'r ddau gyfeiriad, gyda thraffig trwm oherwydd yr amodau rhwng Y Trallwng a Llangadfan.
Bu Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych hefyd ynghau o ganlyniad i'r eira, ac roedd rhybuddion mewn lle ar gyfer yr A483 rhwng y Drenewydd ac Aberriw.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru rybuddio bod amodau "peryglus" ar yr A470 rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy.
Cafodd dwy gêm yn Uwch Gynghrair Cymru eu gohirio oherwydd y tywydd, sef Derwyddon Cefn yn erbyn Met Caerdydd a'r Seintiau Newydd yn erbyn Caerfyrddin.
Bu'n rhaid i ganolfan beicio mynydd yn Llandegla, Sir Ddinbych gau oherwydd yr amodau ar y ffyrdd o amgylch y safle.
Fe wnaeth tîm achub mynydd y bannau gynghori cerddwyr i gymryd offer a dillad addas os ydyn nhw am fynd allan i fwynhau'r eira.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru rybuddio gyrwyr i gymryd gofal, gan ddweud bod glaw trwm wedi achosi amodau anodd ar yr M4.
Bu trafferthion ar drenau yn y gogledd fore Sadwrn hefyd, gyda phroblemau arwyddo rhwng Deganwy a Phenmaenmawr yn golygu bod bysiau wedi bod yn rhedeg yn eu lle mewn rhai mannau.