Cynnal gwasanaethau Sul y Cofio ar draws y wlad
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau Sul y Cofio wedi cael eu cynnal ledled y wlad ddydd Sul.
Roedd gorymdaith yng Nghaerdydd, gydag aelodau o'r fyddin, y llynges a'r awyrlu yn teithio o Rodfa'r Brenin Edward VII at y gofeb rhyfel ym Mharc Cathays.
Cafodd ras ei chynnal dros nos ar Drac Rasio Môn hefyd, gyda'r rasio'n dod i ben er mwyn cynnal gwasanaeth am 11:00 ddydd Sul.
Bu gwasanaeth ym Mangor yn ogystal, gyda thaith ar hyd y Stryd Fawr o'r cloc hyd at yr Eglwys Gadeiriol ar gyfer gwasanaeth, cyn gorymdaith bellach at senotaff y ddinas erbyn 11:00.
Roedd gwasanaeth hefyd yn cael ei gynnal yn Wrecsam, gyda gorymdaith yn teithio at y gofeb rhyfel yn ardal Bodhyfryd yn y dref.
Dywedodd Maer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath bod gwasanaethau o'r fath yn gyfle i "dalu teyrnged i'r dynion a'r merched wnaeth aberthu eu bywydau".
"Rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn parhau â'r traddodiad a chofio'r arwyddocâd sydd gan heddiw ar y rhyddid sydd gennym heddiw," meddai.
"Mae hefyd yn gyfle i ni feddwl am y rheiny sy'n rhan o'r lluoedd arfog ar hyn o bryd a theuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan ryfel."
Ychwanegodd Antony Metcalfe o'r Lleng Brydeinig Frenhinol ei bod yn "bwysig nad ydyn ni erioed yn anghofio cyfraniad ac aberth ein lluoedd arfog, ac edrych ymlaen gyda gobaith at ddyfodol heddychlon".