Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 0-0 Rochdale
- Cyhoeddwyd
Bydd angen gêm arall er mwyn gwahanu Wrecsam a Rochdale yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr ar y Cae Ras brynhawn Sul.
Am rannau helaeth o'r gêm doedd hi ddim yn amlwg pwy oedd y tîm sy'n chwarae yn Adran Un, ond er y chwarae da gan Wrecsam doedden nhw ddim yn gallu canfod y rhwyd.
Mark Harris gafodd y cyfle gorau i'r tîm cartref, ac fe allai fod wedi selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf ond i'w ergyd gael ei harbed.
Roedd y ddau dîm yn credu eu bod yn haeddu ciciau o'r smotyn hefyd, ond roedd y dyfarnwr yn anghytuno.