Creu pecynnau bwyd di-blastig o wair, gwellt ac india-corn

  • Cyhoeddwyd
Pecynnau bwyd wedi'u creu o wastraff india-corn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pecynnau bwyd yma wedi eu creu o ddarnau india-corn fyddai'n cael eu taflu fel arall

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu ffyrdd o ddefnyddio gwair, gwellt ac india-corn i greu pecynnau bwyd sydd ddim yn blastig.

Y bwriad yw defnyddio'r deunyddiau sydd dros ben mewn amaethyddiaeth i greu blychau sy'n pydru i ddal ffrwythau, llysiau ac wyau.

Yn ogystal â chynnig dewis arall i blastig, mae gwyddonwyr yn dweud y bydd yr ymchwil yn rhoi ffynhonnell ychwanegol o incwm i ffermwyr mewn gwledydd Affricanaidd fel Uganda.

Mae'r brifysgol ym Mangor wedi bod yn cydweithio gyda ffermwyr yn y wlad honno, gan ddefnyddio gwastraff india-corn i gynhyrchu'r pecynnau cynaliadwy.

Peiriant arbennig

Yn eu canolfan ym Mona ar Ynys Môn, mae'r gwyddonwyr yn cymysgu'r ffibrau planhigyn - fyddai'n cael eu taflu fel arall - a'u gwasgu i becynnau sy'n debyg i'r rhai plastig sy'n cael eu defnyddio gan archfarchnadoedd i ddal tomatos neu fadarch.

"Mae darganfod ffyrdd eraill o becynnu bwyd yn enwedig yn bwysig oherwydd mae'n lleihau faint o fwyd sy'n cael ei luchio neu ei ddifrodi pan mae'n cael ei symud o un lle i'r llall," meddai Tudur Williams, Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor.

"Mae'r adran wedi prynu peiriant arbennig i edrych ar ffyrdd o ddefnyddio gwastraff cynaliadwy i greu pecynnau sy'n gallu cymryd lle'r single use plastic 'ma 'da ni'n clywed gymaint amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Y peiriant yma sy'n cael ei ddefnyddio i greu'r pecynnau di-blastig

Mae'r brifysgol hefyd wedi bod yn cydweithio gyda gwyddonwyr o Brifysgol Makerere yn Uganda i ddatblygu'r pecynnau newydd.

Yn ôl arbenigwyr yno, mae tua 30-40% o ffrwythau a llysiau'r wlad yn cael eu gwastraffu cyn cyrraedd y farchnad am nad ydyn nhw mewn pecynnau digon safonol i'w gwarchod.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'r prosiect yma'n dod o drafodaethau sy' wedi bod efo Prifysgol Makerere yn Uganda, lle 'da ni wedi edrych ar wastraff amaethyddol, gwastraff cynhyrchwyr india-corn ac wedi defnyddio'r gwastraff yna - sy'n ddiwerth ar un ystyr - ac wedi creu pecynnau bwyd sydd hefyd o werth iddyn nhw - maen nhw'n gallu ei werthu o - ond hefyd sydd o werth i'r sector bwyd yn gyffredinol.

"Mae 'na wastraff bwyd o ran dydy'r bwyd ddim yn cyrraedd yr archfarchnadoedd yn y safon maen nhw ei angen. Felly 'da ni wedi defnyddio'r gwastraff i greu pecynnau sydd o werth ac yn cael gwared ar y single use plastics.

"Mae llefydd fel Uganda ychydig ar flaen y gad o ran bod nhw'n edrych ar ffyrdd i gael effaith ar yr amgylchedd, ychydig bach gwell na ni i fod yn onest."

Incwm ychwanegol

Yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd a'r defnydd o blastig, mae'r arbenigwyr hefyd yn dweud y byddai'n creu incwm ychwanegol i ffermwyr.

Dywedodd Dr Stephen Lwasa o Brifysgol Makerere bod y bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn "gyfle cyffrous i'n ffermwyr".

"Bydd colledion wedi'r cynhaeaf yn cael eu lleihau, safon cynnyrch yn cael ei gynnal a chyfleoedd i farchnata'r deunyddiau pecynnu yma mewn marchnadoedd ehangach yn hybu incwm pawb sy'n rhan o'r cynllun."

Mae ymchwilwyr ym Mangor eisoes wedi datblygu blychau wyau wedi'u gwneud o wair, sy'n cael eu defnyddio gan un cwmni archfarchnad blaenllaw ym Mhrydain.

Y nod, meddai'r ymchwilwyr, yw gostwng nifer y coed sy'n cael eu torri i greu cardbord.