Grantiau newydd i fusnesau am ailgylchu plastig
- Cyhoeddwyd
Gallai Cymru fod yn arwain y ffordd mewn ailgylchu plastig, yn ôl un arbenigwr.
O ddydd Llun ymlaen bydd modd i fusnesau yng Nghymru wneud cais am grant o hyd at £750,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu eu defnydd o blastig wedi'i ailgylchu.
Dywed Rebecca Colley-Jones, Cadeirydd Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, y gallai'r arian helpu busnesau i osgoi treth ar blastig yn y dyfodol.
Bydd y Gronfa Economi Gylchol yn cael ei gweinyddu gan Wrap Cymru, dolen allanol ac yn caniatáu i fusnesau wneud cais am grantiau rhwng £25,000 a £750,000 er mwyn cynyddu eu defnydd o ddeunyddiau sydd wedi eu hailgylchu.
Wrth lansio'r gronfa yn ffatri Klӧckner Pentaplast yng Nghrymlyn, neges y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yw bod Cymru "ar daith i fod yn economi gylchol".
Mae "economi gylchol" yn golygu bod adnoddau yn cael eu hailgylchu ac yn cael eu hailddefnyddio yn hytrach na cael eu taflu.
Dywedodd Ms Blythyn: "Bydd y gronfa yn helpu tuag at y gost o fuddsoddi mewn offer newydd a fydd yn cynyddu y defnydd o ailgylchu yn y sector gynhyrchu yng Nghymru.
"Rydyn yn gwybod y gall hyn greu arbedion sylweddol ac fe fydd yn gostwng ôl troed carbon busensau."
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y cynllun yn galluogi Cymru i gyrraedd ei tharged o ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025 a 100% erbyn 2050.
Dywedodd Ms Colley-Jones, sy'n arbenigo ar economi gylchol, y gallai Cymru osgoi talu trethi ar blastig yn y dyfodol - treth sy'n cael ei gosod gan Lywodraeth y DU.
Eglurodd: "Mae'r gronfa hon yn ymwneud â chadw plastig a'i ailddefnyddio yma yng Nghymru."
Ychwanegodd bod oddeutu 55,000 tunnell o blastig yn cael ei ailgylchu yng Nghymru ar hyn o bryd a bod angen i'r swm gyrraedd 200,000 tunnell er mwyn ailgylchu hanner y plastig sy'n cael ei ddefnyddio.
Dywedodd Ms Blythyn: "Yng Nghymru rydyn yn ailgylchu mwy nag unman arall yn y DU a mae bod y genedl sy'n ailgylchu fwyaf yn y byd o fewn ein gafael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016