Pum munud gyda'r actores Siân Reese-Williams

  • Cyhoeddwyd
Sian ReesE WilliamsFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Reese-Williams wedi ymddangos mewn sawl drama gan gynnwys Y Gwyll, 35 Diwrnod, Emmerdale a Requiem

Gyda chyfres newydd o Craith yn cychwyn ar S4C â Siân Reese-Williams wrth y llyw, bu Cymru Fyw'n holi'r actores deledu a theatr am ei gyrfa a'i bywyd.

Bydd DCI Cadi John (sef cymeriad Siân yn y gyfres) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) yn dychwelyd naw mis ar ôl digwyddiadau iasol y gyfres gyntaf. Mae'r gyfres yn cychwyn ar nos Sul, 17 Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Siân yn chwarae rhan DCI Cadi John yn y ddrama Craith

Mae Craith yn ddrama dywyll iawn. Sut wyt ti'n dygymod gyda pherfformio mewn cyfres gyda themâu mor heriol?

Pan ti'n gweithio ar rywbeth tywyll, ti fel arfer yn cael mwy o sbort pan dyw'r camera ddim yn troi - chi'n gorfod cael amser da a 'neud i'ch gilydd chwerthin. Mae'r criw ar Craith yn wych. Er bod y gyfres yn dywyll, oedd e wastad yn lot o sbort i'w wneud.

Pan ti'n mynd nôl i chwarae cymeriad, mae fel troi switsh ymlaen a ni wedi neud un cyfres yn barod ac yn nabod ein cymeriadau yn dda erbyn hyn felly mae'n rhwyddach i edrych ar y sgripts a cofio pwy ti angen bod.

Mae'r gyfres newydd yn palu'n ddyfnach i fywyd Cadi ac yn ei dangos yn dygymod â newidiadau gan gynnwys marwolaeth ei thad. Pa brofiadau wyt ti'n tynnu arnynt i gyfleu stad emosiynol Cadi?

Ni'n pigo'r gyfres lan 'byti naw mis ar ôl diwedd y gyfres gyntaf ac mae'r tad wedi marw ers rhyw chwe mis. Mae'n dangos yr amser 'na lle mae popeth yn mynd nôl i normal ond dim ond nawr mae'r sioc yn mynd.

Mae'n amser od pan ti'n galaru rhywun. Ti'n gweld Cadi yn gorfod cario mlaen 'da gwaith ac yn trio ymdopi 'da cadw bywyd personol mas o'i gwaith.

'Nes i golli fy mrawd Llŷr pan o'n i'n ffilmio'r ail gyfres so o'n i'n rili deall hwnna. O'n i'n byw e fy hunan. Mae'n ddeinameg diddorol, yr amser hynny ar ôl i ti golli rhywun pwysig.

O'dd e'n anodd ond o'n i'n gweithio gyda ffrindiau oedd yn edrych ar ôl fi. Bydden i ddim wedi gallu bod yn unman gwell.

Oedd y golled yn ffresh iawn i fi, o'dd ddim rhaid i fi dynnu arno fe achos oedd e yna bob dydd. Mae'n gallu bod yn anodd pan ti'n chwarae rhywun gyda paralel i dy fywyd dy hun ond mae'n gallu bod yn cathartic hefyd.

Mae'r gyfres yn teimlo hyd yn oed mwy bygythiol oherwydd cefnlen hynod gogledd Cymru. Ydy'r lleoliad yn help ar gyfer portreadu'r cymeriad?

Ydy, yn bendant. Mae'r lleoliadau fel cymeriad arall achos maen nhw mor eiconig a mor gryf fel delwedd, Blaenau Ffestiniog yn enwedig. Mae'r mynyddoedd a'r llechi ar dy ben di.

Mae'n helpu achos ti'n teimlo naws y ddrama tra bod ti'n ffilmio fe.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Siôn Alun Davies yn y gyfres Craith

Sut brofiad oedd perfformio yn y gyfres BBC Line of Duty? Wyt ti'n cael dy adnabod lawer mwy oherwydd hynny?

Briliant. O'n i heb weld e cyn mynd am yr audition a nes i binge watcho fe i gyd mewn wythnos - mae e'n wych. Oedd y cast yn grêt.

Oes gen ti hoff gymeriad wyt ti wedi portreadu?

Mae Cadi'n agos iawn i'n nghalon i achos dw i wedi bod gyda'r gyfres ers y dechre felly o'n i'n gwybod yn gwmws pwy oedd hi.

Rwyt ti wedi rhedeg Marathon Llundain eleni i godi arian - sut brofiad oedd hynny a beth wnaeth dy gymell i redeg y marathon?

Amazing! O'n i ddim yn erfyn mwynhau e achos dw i'n fflyrtio 'da rhedeg yn hytrach na rhedeg yn aml. O'n i'n codi arian i elusen brain tumour ar ôl colli fy mrawd Llŷr. Oedd e'n deimlad amazing a nes i godi lot o arian, oedd pobl mor hael gyda'u arian nhw. Oedd e'n fythgofiadwy.

Mae wedi helpu gyda'r broses alaru - o'n i'n gweithio a trainio ar yr un pryd a wnaeth Llŷr farw. Oedd rhai adegau pan o'n i ddim mo'yn 'neud e ond weithie oedd e'r peth gore o'n i'n gallu gwneud.

'Sa'i wedi rhoi trainers fi nôl mlaen ers hynny. Oedd e wedi cymryd shwt gymaint mas ohona'i ond mae'n rhaid i fi ddechre arni eto.

Mae cyfres newydd o Craith yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 17 Tachwedd.

Hefyd o ddiddordeb