'Angen newid dull o gwyno am wleidyddion Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau a melinau trafod yn galw am ddiwygio'r ffordd mae'r Cynulliad yn delio â chwynion yn erbyn gwleidyddion.
Mae'r 11 o sefydliadau, yn cynnwys y Rhwydwaith Cydraddoleb Menywod, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ac Anabledd Cymru, wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones.
Daw ar ôl i , dolen allanol'n Gomisiynydd Safonau dros dro, a hynny yn sgil ymddiswyddiad Syr Roderick Evans.
Fe wnaeth Syr Roderick adael y rôl ar ôl i'r AC Neil McEvoy ddatgelu recordiadau dirgel yr oedd yn honni oedd yn dystiolaeth o rywiaeth a thuedd y cyn-gomisiynydd.
'Profiad ac arbenigedd'
Yn y llythyr mae'r sefydliadau'n mynegi pryder nad yw'r comisiynydd wedi bod yn "ddigon cadarn i gynnig ymateb ystyrlon i'r problemau sydd i'w gweld yng ngwleidyddiaeth heddiw".
"Mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi dangos ymhellach bod rôl y Comisiynydd Safonau angen ei ddiwygio ar frys."
Byddai panel yn lle un comisiynydd yn "sicrhau profiad ac arbenigedd" i ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ac "ystod eang o faterion eraill", meddai'r grŵp.
"Mae'n amlwg na ellir un person fod â'r arbenigedd sydd ei angen i ddelio gydag ystod o feysydd."
Mae'r grŵp hefyd yn galw am gefnogaeth arbenigol i'r panel os oes ei angen, pwerau i'r comisiynydd nesaf i roi cosbau llymach mewn achosion o gam-drin ac aflonyddu, a'r gallu i ymchwilio i ddigwyddiadau o dros flwyddyn yn ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019