Cynnydd mawr yn nifer achosion sy'n 'peryglu' ceffylau
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer y "digwyddiadau peryglus" rhwng ceffylau a cheir yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ôl Cymdeithas Ceffylau Prydain, fe welodd Cymru gynnydd o 78% yn nifer yr achosion lle ddaeth ceffyl i gyswllt agos â char.
Mae'r gymdeithas hefyd yn nodi mai dim ond un o bob 10 ddigwyddiad sy'n cael eu cofnodi, ac fe all y nifer felly fod yn llawer uwch.
Dywedodd un sy'n marchogaeth fod mynd â'i cheffyl ar y lôn yn gallu fod yn brofiad "afiach".
Yn 2017-2018 fe gafodd 32 o "ddigwyddiadau peryglus" eu cofnodi yng Nghymru o gymharu â 57 eleni.
Bu farw un ceffyl mewn gwrthdrawiad yn Mro Morgannwg eleni.
Mae Mari Williams, sydd yn 20 oed, wedi bod yn marchogaeth ers yn fach ac wedi cael sawl profiad "hynod o beryg".
"Dwi wedi cael rhai diwrnodau afiach," meddai.
"Mae'r sŵn lleiaf yn gallu gwneud iddyn nhw gynhyrfu. Mae'n hollol dibynnu pa fath o bobl sydd ar y lôn.
"'Sa unrhyw sŵn yn gallu gwneud iddyn nhw fynd o ochr o ochr ac mae hynny'n beryg inni, ond i'r bobl yn y ceir 'sa nhw'n gallu glanio arnyn nhw hefyd."
Dywedodd Cymdeithas Ceffylau Prydain fod 3,737 o ddigwyddiadau peryglus wedi cael eu cofnodi ers dechrau cadw cofnodion yn 2010, gyda 315 o geffylau a 43 o bobl wedi eu lladd.
Mae eu hymgyrch diweddaraf yn annog pobl i gadw lled car wrth basio ceffyl ac i yrru dim hwy na 15 mya.
"Mae'n gallu fod yn hynod o beryg fel mae ceffylau yn dychryn maen nhw'n symud i'r ochr", meddai Mari.
"Mae rhai digwyddiadau pan mae'r ceffyl wedi mynd trwy'r windscreen."
Y cyngor yw i yrwyr fod yn amyneddgar ac i beidio â chanu corn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019