Cymru v Hwngari: Yr enillwyr yn hawlio lle yn Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Azerbaijan v Cymru, 16 Tachwedd 2019Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn rhoi Cymru ar y blaen yn erbyn Azerbaijan ddydd Sadwrn

Bydd buddugoliaeth yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd nos Fawrth yn sicrhau lle Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2020.

Mae tynged carfan Ryan Giggs yn eu dwylo eu hunain, diolch (yn rhannol) i goliau gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn Abzerbaijan nos Sadwrn - a chyda help llaw gan Groatia.

Er gwaetha'r holl gymhlethdod ynghylch Cynghrair y Cenhedloedd, dolen allanol a'r gemau ail-gyfle, mae hi'n dod lawr i un gêm.

Ond mae Cymru wedi bod yn y sefyllfa yma o'r blaen - a hynny fwy nag unwaith.

Yn fwy diweddar, fe fethodd tîm Chris Coleman â chyrraedd Cwpan y Byd Rwsia 2018 yn dilyn colled siomedig gartref yn erbyn Iwerddon.

A phwy all anghofio'r golled i'r Rwsiaid yn 2003, cic o'r smotyn Paul Bodin yn erbyn Romania yn 1993, neu lawiad Joe Jordan yn '77?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Taith Cwpan y Byd un cefnogwr yn dod i ben am ymgyrch arall yn erbyn Iwerddon yn 2017

Ond roedd un chwaraewr go bwysig ar goll ar gyfer y gêm honno yn erbyn y Gwyddelod ddwy flynedd yn ôl.

Y tro yma, mae'n ymddangos y bydd Gareth Bale ar gael i wynebu Hwngari, sydd eu hunain yn gwybod y byddai buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn sicrhau eu lle nhw yn Euro 2020.

Mae'n bosib y bydd y gêm hefyd yn un o'r ychydig adegau'n ddiweddar ble fydd Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen - triawd hollbwysig Cymru - i gyd ar gael i gychwyn.

Canlyniadau syfrdanol Hwngari

Rhywbeth arall i godi gobeithion y Cymry - mae record ddiweddar yr ymwelwyr oddi cartref yn wan iawn.

Dim ond dwy o'u 14 gêm ddiwethaf mae Hwngari wedi'u hennill oddi gartref - gyda chanlyniadau nodedig yn cynnwys colli i Lwcsembwrg ac Andorra, a gêm gyfartal yn erbyn Ynysoedd Ffaroe.

Ar ben hynny, mae Cymru'n ddiguro mewn gêm ragbrofol yr Euros gartref ers mis Mawrth 2011.

Disgrifiad,

Ben Davies: Y garfan yn ffyddiog cyn wynebu Hwngari

Os ydy Cymru'n ennill fe fyddan nhw fwy na thebyg ymhlith y detholion isaf ar gyfer cystadleuaeth yr haf nesaf, sy'n cael ei chwarae mewn 12 o ddinasoedd ar hyd a lled Ewrop.

Byddai hynny'n golygu na allan nhw fod yn yr un grŵp ag unrhyw dîm oedd yn dod drwy'r gemau ail gyfle.

Ond oherwydd hynny, byddan nhw hefyd yn cadw draw o grwpiau C, D, E ac F ac felly timau fel Yr Iseldiroedd, Lloegr, Sbaen a'r Almaen.

Hyd yn oed os nad ydy Cymru'n llwyddo i drechu Hwngari, bydd ganddyn nhw dal siawns arall o gyrraedd Euro 2020 drwy'r gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.

Mae'r timau y gallan nhw wynebu yn y gemau hynny yn cynnwys Bosnia, Gweriniaeth Iwerddon, Slofacia neu Ogledd Iwerddon, oedd i gyd hefyd yn Adran B Cynghrair y Cenhedloedd llynedd.

Ond mae siawns fechan y gallan nhw hefyd gael eu symud i gemau ail-gyfle Adran A, ble byddai Gwlad yr Iâ neu wledydd fel Bwlgaria, Israel neu Romania yn aros amdanyn nhw.

Rhy gymhleth? Curo nos Fawrth ac fe allwn ni osgoi'r holl gur pen yma - tan yr ymgyrch nesaf o leiaf.