Saesneg yn unig: 'Siaradwyr Cymraeg mewn ffatri yn crïo'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dyfarnu fod penaethiaid ffatri gydrannau ceir yn y gorllewin wedi ymyrryd â rhyddid gweithwyr i siarad Cymraeg.
Roedd rhai o staff ffatri Pullmaflex yn Rhydaman wedi eu gadael "yn eu dagrau" pan gawson nhw gyfarwyddyd i ddefnyddio'r Saesneg yn unig yn y gweithle.
Aeth dau o'r gweithwyr â'u cwynion at Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Rhagfyr 2018.
Fe benderfynodd Aled Roberts ymchwilio i'r honiadau.
'Iechyd a diogelwch'
Dywedodd rheolwr y ffatri, James Handyman bod y "cais" i'r gweithwyr beidio siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith wedi cael ei wneud yn wreiddiol am resymau iechyd a diogelwch.
"Roeddem ni'n parchu hawl pobl i siarad eu hieithoedd eu hunain yn ystod cyfnodau o seibiant neu yn y maes parcio," meddai.
"Roedd y cais yma yn ymwneud yn bennaf â iechyd a diogelwch, ac yn ymwneud yn bennaf â gweithwyr o ddwyrain Ewrop.
"Doedden ni ddim wedi ystyried y byddai wedi pechu ein gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Pan ddaeth hynny i'r amlwg, fe wnaethom ni ymddiheuro."
Dywedodd fod hawl gan weithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Yn ystod ei ymchwiliad daeth Aled Roberts i'r casgliad bod y cyfarwyddyd wedi "achosi gofid a dicter i aelodau staff".
Dywedodd fod y sefyllfa wedi achosi "i rai siaradwyr Cymraeg grïo gan fod y Gymraeg wedi cael ei siarad ar y safle ers dros 30 o flynyddoedd".
"Roedd rhai siaradwyr Pwyleg, oedd wedi defnyddio'r iaith wrth eu gwaith ers dros dair blynedd, yr un mor ofidus," meddai.
Ni chafodd Mr Roberts ei argyhoeddi mai am "resymau iechyd a diogelwch" y cafodd y cyfarwyddyd ei gyflwyno.
Roedd y Comisiynydd o'r farn mai'r gwir reswm amdano oedd i "hwyluso ymchwiliadau ffurfiol" o fewn y cwmni.
Daeth y Comisiynydd hefyd i'r casgliad bod y cwmni wedi cyfeirio, ar fwy nac un achlysur, at y Gymraeg mewn "termau digon negyddol".
'Iaith fyw' yn Rhydaman
Dyfarnodd Mr Roberts bod Leggett and Platt Automotive, perchnogion ffatri Pullmaflex, wedi "ymyrryd â rhyddid y gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg", yn groes i Fesur y Gymraeg.
Dydy hi ddim yn bosib i'r Comisiynydd iroi dirwy i gwmnïau preifat am dorri'r mesur, ond fe awgrymodd y dylai'r cwmni wneud y canlynol:
Tynnu'r cyfarwyddyd i ddefnyddio'r Saesneg yn unig yn ôl ac ymddiheuro i'r gweithwyr;
Cydnabod statws swyddogol y Gymraeg yn llawn;
Cyhoeddi mewn dogfen bolisi na fydd yn ymyrryd â rhyddid unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae Mr Handyman wedi addo y bydd y cwmni yn cydymffurfio gyda chyngor y Comisiynydd.
Mae Prif Weithredwr Menter Dinefwr, Owain Gruffydd, wedi disgrifio'r angen am ymchwiliad "fel siom fawr".
"Bydde fe wedi bod yn dda gallu datrys y sefyllfa ynghynt a bod y sefyllfa heb godi o gwbl," meddai.
"Mae'n drist o beth, mewn ardal fel Rhydaman, lle mae dros hanner y bobl yn siarad Cymraeg ac mae'n iaith fyw... mae'n bryderus iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019