Ceidwadwr yn ymddiswyddo am 'ddiffyg gweithredu' cadeirydd

  • Cyhoeddwyd
Lee Canning
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lee Canning bod ganddo "bryderon difrifol" am reolaeth y Ceidwadwyr Cymreig

Mae aelod blaenllaw o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gadael y blaid, gan alw ar y cadeirydd Byron Davies i ymddiswyddo am ei "ddiffyg gweithredu llwyr" ar "faterion difrifol".

Dywedodd Lee Canning, oedd yn ddirprwy gadeirydd gyda'r blaid, y dylai'r cyn-Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns "efallai fod wedi camu o'r neilltu" fel ymgeisydd yn yr etholiad.

Fe wnaeth Mr Cairns ymddiswyddo o'r cabinet wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod yn gwybod am rôl cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio.

Dywedodd yr Arglwydd Byron Davies bod Mr Canning yn "ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus anfodlon".

Fe wnaeth Mr Canning ymddiswyddo o'r blaid ddydd Llun i ymuno â Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru.

Yn ei lythyr yn ymddiswyddo dywedodd Mr Canning bod "diffyg gweithredu llwyr cadeirydd ein plaid ar faterion difrifol" wedi ei adael â "dim opsiwn" ond gadael y blaid.

Davies 'ddim yn ymwybodol'

Daw wedi i Ross England - cyn-gydweithiwr â Mr Cairns ac ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad - gael ei gyhuddo gan farnwr o ddymchwel achos treisio yn fwriadol.

Cafwyd y diffynnydd, James Hackett, yn euog mewn achos arall.

Er iddo honni nad oedd yn ymwybodol o rôl Mr England yn dymchwel yr achos cyn i'r stori dderbyn sylw yn y wasg fis diwethaf, daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod Mr Cairns wedi derbyn e-bost yn trafod yr amgylchiadau ym mis Awst 2018.

Mae'r mater dan ymchwiliad gan Swyddfa'r Cabinet, ac mae Mr Cairns yn dweud ei fod yn hyderus nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Byron Davies bod Mr Canning yn "ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus anfodlon"

Mae'r Arglwydd Davies yn mynnu nad oedd yn ymwybodol o amgylchiadau dymchwel yr achos nes i apêl Hackett ddod i ben ar 15 Hydref.

Ond dywedodd Mr Canning nad yw'n credu bod "unrhyw ffordd na fyddai'n gwybod amdano" ag yntau'n gadeirydd y blaid.

Ychwanegodd Mr Canning ei fod wedi ceisio cael trafodaeth am Mr England yng nghynhadledd y blaid fis Hydref ac yna mewn cyfarfod bwrdd y Ceidwadwyr Cymreig ond na gafodd yr hawl i wneud hynny.

'Cyfle iddo amddiffyn ei hun'

Ychwanegodd ei fod o'r farn y dylai Mr Cairns "efallai fod wedi camu o'r neilltu" fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.

"Byddai wedi bod yn well iddo ef ac yn well i'r blaid, yn enwedig gyda'r achos yma, a pe bai wedi camu o'r neilltu byddai wedi rhoi'r cyfle iddo amddiffyn ei hun," meddai Mr Canning.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross England wedi cael ei wahardd fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad

Fe wnaeth Mr Canning geisio bod yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr ond dywedodd ei fod wedi cael ei atal rhag gwneud hynny oherwydd neges Twitter ddaeth i'r amlwg o 2012.

Yn y neges dywedodd ei fod wedi galw ffrind benywaidd iddo'n "slag" ond mai jôc oedd hynny.

Dywedodd ddydd Mawrth bod ymgeiswyr eraill wedi gwneud "llawer gwaeth".

'Pryderon difrifol

Ychwanegodd Mr Canning bod ganddo "bryderon difrifol" am reolaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

"Mae 'na faterion sydd angen mynd i'r afael â nhw ac rwy'n meddwl mai'r ffordd orau o wneud hynny fyddai i Byron gamu o'r neilltu," meddai.

Yn ymateb i honiadau Mr Canning dywedodd yr Arglwydd Davies ei fod yn "ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus anfodlon" a'i bod yn "drist ei fod wedi mynd at y wasg i fynegi ei rwystredigaeth".

"Ni wnaeth Lee Canning erioed geisio codi'r mater ynglŷn â Ross England gyda mi fel mae'n ei ddweud.

"Mae'r mater nawr dan ymchwiliad ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ynglŷn ag ef."