Annog dynion i fod yn wyliadwrus am ganser y fron
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Conwy wnaeth sylweddoli ar lwmp "maint pysen wedi'i rhewi" wedi annog dynion i fod yn wyliadwrus am symptomau canser y fron.
Fe wnaeth Vince Kitching, 69, drefnu apwyntiad gyda'i feddyg teulu yn syth ar ôl canfod y lwmp ar ei frest chwith.
Fe wnaeth profion ddangos bod ganddo diwmor ac fe gafodd mastectomi llawn i'w dynnu.
Mae'r taid o Gyffordd Llandudno bellach yn holliach yn dilyn y darganfyddiad ym mis Mai eleni.
Mae canser y fron yn brin mewn dynion, gyda 390 yn cael diagnosis pob blwyddyn o'i gymharu â 54,800 o fenywod yn ôl Cancer Research UK.
'Ro'n i'n lwcus'
"Roeddwn i a fy ngwraig, Helen yn drist ofnadwy pan wnaethon ni dderbyn y newyddion bod gen i ganser y fron," meddai Mr Kitching.
Ond wedi iddo dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd roedd yn gallu mynd adref y diwrnod hwnnw i ddechrau gwella.
"Ro'n i'n lwcus - doedd gen i ddim poen ar ôl fy llawdriniaeth ac fe wnes i wella'n sydyn iawn," meddai.
Wythnos yn ddiweddarach fe dderbyniodd y newyddion nad oedd y canser wedi gwasgaru ac na fyddai angen unrhyw driniaeth arall.
"Dydw i ddim yn siŵr ers pryd roedd y lwmp yno - doeddwn i ddim yn cadw golwg ar fy mrest," meddai Mr Kitching.
"Fel nifer o ddynion, doeddwn i ddim yn gwybod ein bod i fod i gadw golwg ar y rhan yma o'r corff hyd yn oed.
"Doeddwn i erioed wedi clywed am ganser y fron mewn dynion o'r blaen, a does 'na ddim hanes o ganser y fron yn y teulu felly doedd erioed wedi croesi fy meddwl."
Dywedodd llawfeddyg Mr Kitching, Chiara Sirianni bod canser y fron mewn dynion yn "eithaf prin" a'i fod yn cynrychioli tua 1% o'r holl achosion.
"Mae'n bwysig i ddynion aros yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw lympiau ar y frest i'w meddyg," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018