'Dryswch' am drefn profion canser y fron ôl-70, medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Mammogram

Mae angen codi ymwybyddiaeth ymysg merched dros 70 am eu hawl i fynd am brawf canser y fron, yn ôl elusen iechyd flaenllaw.

Mae Breast Cancer Care yn honni bod 'na "ddryswch" am y drefn bresennol, ac yn dweud bod angen i ferched gael y wybodaeth angenrheidiol.

Yn y Deyrnas Unedig, mae merched rhwng 50-70 oed yn cael cynnig prawf mamogram bob tair blynedd, ond mae angen iddyn nhw ofyn am un wedi hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y rhaglen sgrinio yn "seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd".

'Dryswch'

Yn ôl y ffigyrau diweddara', mae 42% o ferched sy'n cael eu heffeithio gan ganser y fron yng Nghymru rhwng 65 ac 84 oed.

Mae Breast Cancer Care wedi darganfod nad oedd dros hanner o ferched, 51%, yn gwybod eu bod yn gallu gofyn am brawf mamogram ar ôl cyrraedd 70.

Mae'r elusen yn dweud bod 'na "ddryswch" am y drefn bresennol.

Dywedodd Addie Mitchell, nyrs clinigol gyda Breast Cancer Care: "Mae'n allweddol bod merched yn gwybod tra bod y cynnig am brofion yn dod i stop wrth iddyn nhw droi'n 70, dydy hyn ddim yn golygu nad oes 'na risg pellach.

"Merched sy'n mynd yn hŷn sydd â'r risg mwyaf.

"Mae angen i ferched gael y wybodaeth angenrheidiol i allu gwneud dewis deallus ynghylch cael prawf sgrinio ar ôl cyrraedd 70 os ydyn nhw'n dymuno hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Margaret Williams am roi gwybod bod profion ar gael i ferched ar ôl cyrraedd 70

Cafodd y gantores Margaret Williams ganser y fron y llynedd, gan ddisgrifio'r newydd iddi fel "sioc".

Dywedodd: "Fyswn i yn licio petawn ni wedi cael gwybod y byswn i'n medru cael mamogram ond i mi fod yn gofyn amdano bob tair blynedd.

"Doeddwn i ddim yn gwybod hynny neu mi fyswn i wedi gwneud."

Ychwanegodd ei bod yn "hollbwysig" bod merched yn cael gwybod eu bod nhw'n gallu gofyn am brawf mamogram ar ôl cyrraedd eu 70.

Adolygu'r rhaglen yn 'rheolaidd'

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae ein rhaglen sgrinio genedlaethol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd.

"Ni fydd canlyniadau'r treial presennol yn Lloegr yn hysbys am rai blynyddoedd.

"Bydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried y canfyddiadau hyn pan fyddant ar gael ac yn cynghori holl raglenni sgrinio cenedlaethol y DU yn unol â hynny."