Pryder am ddiffyg swyddog Cymraeg i Brifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Caerdydd

Mae rhai o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd yn anhapus am nad yw addewid i gael swyddog iaith Gymraeg llawn amser wedi'i wireddu.

Mewn cyfarfod y llynedd fe gafodd cynnig ei basio a fyddai, ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg.

Ond mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dweud mai galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu'r swydd oedd y cynnig, a dim mwy na hynny.

Mae'r cynigydd a'r eilydd, Wiliam Rees a Jacob Morris, wedi anfon llythyr at lywydd yr undeb yn honni bod bwrdd yr ymddiriedolwyr yn "gwneud popeth yn eu gallu i lesteirio mandad clir y myfyrwyr".

Maen nhw'n cyfeirio at yr adroddiad ariannol sy'n dweud bod cyfanswm incwm yr undeb bron yn £10m.

Gwrthod y sylwadau hynny mae undeb y myfyrwyr, gan ddweud mai eu trosiant sy'n £10m a bod eu hincwm blynyddol yn rhyw £3,000.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jacob Morris bod "gormod o waith i un person ei wneud yn ddi-gyflog"

Maen nhw'n dweud hefyd fod toriad wedi bod yn y cyllid y maen nhw'n ei gael gan y brifysgol - gyda'r swm hwnnw'n cael ei gadw yn ei unfan y llynedd gyda gostyngiad o 1% eleni.

Maen nhw'n ychwanegu bod proses o ddiswyddo staff wedi bod ar waith yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ogystal mae dogfennau llywodraethol undeb y myfyrwyr yn cyfyngu nifer y swyddogion sabathol i saith, a byddai angen caniatâd y brifysgol a'r Comisiwn Elusennau i greu wythfed swydd lawn amser.

Mae datganiad yr undeb hefyd yn dweud y bu naw ymgais o leiaf i gysylltu â'r rheiny wnaeth y cynnig i gael swyddog llawn amser Cymraeg - drwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn - ond "mae'n destun gofid na chafwyd unrhyw ymgysylltu".

Fe ddywedodd Mr Rees a Mr Morris y cawson nhw gyfarfod â'r undeb ddechrau'r flwyddyn ac yn dweud mai camau gwag ar ran yr undeb oedd ceisio cysylltu yn ystod gwyliau'r haf a'r wythnos ddarllen.

'Ystyried o ddifrif'

Bu peth cefnogaeth i'r myfyrwyr yn y Senedd gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

"Mae'n fater i'r undeb myfyrwyr eu hunain... ond dwi yn meddwl ei bod yn werth nodi bod Bangor ar y blaen, bod Aberystwyth ar y blaen a bod Abertawe ar y blaen yn y maes yma," meddai.

"Hefyd mae'n werth nodi bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i Brifysgol Caerdydd na sy 'na i'r holl brifysgolion eraill, felly dwi yn meddwl bod hi'n bwysig eu bod nhw'n ystyried o ddifrif am yr hyn sy'n digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi rhoi cefnogaeth i'r myfyrwyr yn y Senedd

Fe fydd y cyfarfod blynyddol nos Iau yn trafod cynnig i gynnwys yr iaith Gymraeg fel rhan o swyddogaethau un o'r swyddi llawn amser eraill.

Yn ôl Mr Rees a Mr Morris, y tîm o swyddogion sabothol presennol sydd wedi llunio'r cynigion hynny, ac y bydd gan y rheiny ragfarn dros y status quo, felly mae 'na fwriad i gyflwyno gwelliant yn galw am swyddog Cymraeg llawn amser.

Ond yn ôl yr undeb mae'r cynnig newydd yn "cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg".

Mae yna anghytuno amlwg felly, ac yn ogystal ag anfon eu llythyr at Weinidog y Gymraeg, mae Mr Rees a Mr Morris wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg, y Comisiwn Elusennau, a swyddfa Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.