Swyddog Cymraeg Prifysgol Abertawe am 'godi statws iaith'
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi dweud mai ei bwriad yw codi statws yr iaith yn y brifysgol.
Bydd Megan Fflur Colbourne, myfyriwr Daearyddiaeth o Landysul, yn dechrau yn ei swydd fis Mehefin.
"Mae'n fraint i fod y Swyddog [Cymraeg] llawn amser cyntaf," meddai. "Dwi'n gwybod bydd lot o waith ond dwi'n barod.
"Fi'n credu bod myfyrwyr [Cymraeg] ddim yn cael gymaint o gefnogaeth â myfyrwyr Saesneg - fi'n gobeithio codi statws yr iaith Gymraeg ar draws y brifysgol."
Ar hyn o bryd mae'r swydd yn un rhan amser ac fe wnaeth cynnig i gynnal pleidlais i'w gwneud yn swydd llawn amser ysgogi dadl ffyrnig o blaid ac yn erbyn.
Ond fe bleidleisiodd y myfyrwyr o blaid cynnal refferendwm ac yna o blaid gwneud y swydd yn un llawn amser.
Yn ôl Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, mae cynnydd o 40% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ers 2011.
"Mae hyn yn newyddion ardderchog," meddai am benodiad Megan.
"Mae'n binacl blynyddoedd o waith yn cefnogi myfyrwyr i sicrhau bod nhw'n cael llais o fewn eu hundeb ei hunain ac felly o fewn Prifysgol Abertawe."
Caerdydd nesaf?
Prifysgol Caerdydd bellach yw un o'r ychydig brifysgolion yng Nghymru sydd heb Swyddog Materion Cymraeg llawn amser, er mai hi yw'r fwyaf.
"Ma' fe'n syndod o feddwl bod y brifysgol ym mhrifddinas Cymru a bod y gymdeithas Gymraeg dwbl maint un Abertawe," meddai Megan.
"Gobeithio fyddan nhw'n gallu cael un - bydde fe'n 'neud llawer o wahaniaeth."
Yn ôl Jacob Morris, swyddog rhan amser y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, mae yna deimlad bod myfyrwyr Cymraeg yn y brifddinas ar eu colled.
"Rwy'n falch iawn ac yn dymuno pob hwyl i Megan yn y swydd. Efallai bod ni fan hyn yng Nghaerdydd ychydig ar ei hôl hi, ond yn sicr i ni ddim yn bell o ddala lan gyda nhw."
Yn dilyn pleidlais fis Tachwedd y llynedd ymrwymodd Undeb y Myfyrwyr i ethol Swyddog y Gymraeg llawn amser o wanwyn 2020 ymlaen. Ond i Jacob, mae ei lwyth gwaith ef yn dangos bod angen i'r undeb weithredu yn gyflym.
"Mae'r swydd yn cymryd lot [o amser], rwyf yn swyddog Cymraeg rhan amser, sai'n cael fy nhalu amdano fe.
"Ar ben astudiaethau ac ar ben gorfod delio gyda phob dim arall, mae'n gallu mynd yn drwm iawn... Ry'n ni'n gweld nawr bod y Brifysgol gyda chynlluniau newydd i uno ysgolion. Ry'n ni'n brifysgol yn y brifddinas - yn brifysgol Russell Group heb swyddog Cymraeg llawn amser, mae hwnna'n rhywbeth sy'n peri gofid mawr iawn i fi.
"Ond yn sicr mae yna wahaniaeth, y'n ni'n troi'r trai fel petai, ni'n gobeithio o fewn rhyw flwyddyn y bydd swyddog llawn amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018