Gwaith datblygu Ffordd y Brenin Abertawe wedi'i gwblhau

  • Cyhoeddwyd
Ffordd y Brenin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygiad wedi wynebu oedi ar ôl i gwmni adeiladu fynd i'r wal

Mae ailddatblygiad gwerth £12m o Ffordd y Brenin yn Abertawe wedi cael ei ganmol gan berchnogion busnesau, sy'n gobeithio y bydd yn hwb i fasnach.

Mae'r gwaith wedi wynebu oedi, yn bennaf wedi i'r cwmni adeiladu oedd yn gyfrifol am y gwaith, Dawnus, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr gyda'r gwaith ar ei hanner.

Fe wnaeth Griffiths Ltd gamu i'r adwy ac fe gafodd y gwaith ar y ffordd ei gwblhau'r wythnos hon, gydag ardaloedd cyfagos i gael eu gorffen yn y flwyddyn newydd.

"Mae'n edrych yn dda - gobeithio y bydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas," meddai'r cigydd Howard Penry.

"Yn y tymor hir bydd e werth e. Mae wedi cymryd amser hir ac mae wedi achosi trafferthion, ond nawr bod hynny wedi'i gwblhau mae'n hwb."

Kingsway butchers
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Howard Penry ei fod yn "gobeithio y bydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas"

Fe wnaeth siop Perfect Bridal symud i'r ardal am fod y rheolwr, Julie Riby yn credu mai "dyma'r lle i fod".

"Nawr bod e wedi'i gwblhau rwy'n hapus iawn gydag e," meddai.

Mae Ffordd y Brenin wedi cael ergydion dros y degawd diwethaf, gyda bywyd nos yn gadael yr ardal a nifer o siopau ynghau.

Ffordd y Brenin
Disgrifiad o’r llun,

Mae newidiadau wedi'u gwneud i drefn y ffyrdd ac edrychiad Ffordd y Brenin

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart bod y gwaith ar ardaloedd cyfagos wedi dod i ben dros y Nadolig i "gefnogi masnachwyr".

"Rydych chi'n edrych o amgylch canol y ddinas ac mae hyd at 10 craen i'w gweld - dydyn ni ddim wedi gweld hynny ers 20 mlynedd," meddai.

"Bydd y safleoedd eraill ar agor dros y misoedd nesaf ac erbyn 2022/23 bydd gennym ni ganol dinas gwahanol iawn."

Mae ailddatblygiad Ffordd y Brenin yn rhan o ddatblygiad ehangach o ganol Abertawe, gan gynnwys arena 3,500 sedd a pharc arfordirol.

Bydd cabinet y cyngor yn penderfynu ddydd Iau a fydd yn rhoi £110m i'r cynllun, wedi iddyn nhw eisoes gymeradwyo £24m hyd yn hyn.