Cadarnhad fod cwmni adeiladu Dawnus yn nwylo gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad swyddogol fod cwmni adeiladu Dawnus wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Yn ôl datganiad brynhawn Gwener, mae cwmni Grant Thornton UK LLP wedi cael eu penodi'n weinyddwyr dros rannau Prydeinig y cwmni, ond nid y canghennau tramor.
Mae grŵp Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl dros chwech o swyddfeydd rhanbarthol, ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu ar hyn o bryd.
Mae'r cwmni wedi mynd i drafferthion oherwydd arafu yn y diwydiant adeiladu.
Dywedodd Alistair Wardell o Grant Thornton: "Mae grŵp Dawnus wedi wynebu nifer o heriau amrywiol ac er gwaeth ymdrechion sylweddol i adfywio'r busnes, yn anffodus nid yw wedi medru achub y grŵp.
"O ganlyniad mae llif arian y cwmni wedi golygu nad yw'r busnes mewn safle i barhau i weithredu, gan gynnwys cwblhau prosiectau adeiladu sydd eisoes wedi dechrau.
"Er nad yw trafferthion ariannol y cwmni yn ganlyniad i Brexit, does dim amheuaeth fod ansicrwydd Brexit wedi cael effaith ar yr ymdrechion i achub y busnes.
"Ein blaenoriaeth gyntaf yw gweithio gyda'r rheolwyr i sicrhau fod yr effaith ar gwsmeriaid, gweithwyr a chredydwyr yn cael ei leihau."
'Penderfyniad trist'
Mewn datganiad brynhawn Gwener, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC: "Caiff y penderfyniad trist hwn effaith arwyddocaol hefyd ar fusnesau bach a chanolig yn y gadwyn gyflenwi.
"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda bwrdd Dawnus a'r gweinyddwyr i greu cronfa ddata o gredydwyr y busnes i'w dadansoddi i werthuso'r effaith lawn ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
"Mae gan y cwmni nifer o gontractau byw â'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru i gadw'r effaith mor fach â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2019