Cyngor yn cytuno cyllid i arena, siopau a fflatiau Abertawe

  • Cyhoeddwyd
DatblygiadFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r datblygiad gorffenedig

Mae disgwyl i waith ddechrau ar arena gyda 3,500 o seddi, siopau a fflatiau yn Abertawe ar ôl i'r cabinet gefnogi buddsoddiad o £110m.

Dywedodd y cyngor y gallai gwaith ddechrau ar ran cyntaf y cynllun - sy'n cynnwys 36 o fflatiau a 15 o siopau - yn fuan.

Cytunodd cabinet y cyngor i'r buddsoddiad, sydd eisoes wedi derbyn £24m o arian yr awdurdod.

Bydd y cyngor yn ceisio adennill bron i £23m o'r gost drwy fargen ddinesig yr ardal, yn ogystal â £5m o werthu'r fflatiau.

Yn y pen draw mae cynlluniau i adeiladu maes parcio aml-lawr hefyd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe

Mae'r datblygiad yn un "arwyddocaol", yn ôl arweinydd y cyngor, Rob Stewart.

"Dwi'n meddwl taw dyma'r diwrnod mwyaf arwyddocaol i'r cyngor yma neu unrhyw un arall dros yr 20 mlynedd diwethaf o ran buddsoddiad ac achub y ddinas.

"Rydyn ni wir ar bwynt isel ar hyn o bryd ac os nad y'n ni'n gwneud rhywbeth sylweddol yna mae dyfodol Abertawe'n edrych yn ansicr iawn."

Mae'r weinyddiaeth Lafur yn y cyngor wedi neilltuo arian ar gyfer chwe blynedd o ad-daliadau'r benthyciad fyddai'n cyllido'r cynllun.

Dywedodd y cyngor y byddai angen £7m y flwyddyn am 40 mlynedd i ad-dalu'r gost, ac £1.7m mewn costau cynnal a chadw bob blwyddyn.

Dywedodd arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor, Chris Holley, ei fod yn croesawu'r datblygiad, ond bod y grŵp ychydig yn ansicr am "oblygiadau hirdymor" ariannol y cynllun.