Cyflwyno cynlluniau terfynol datblygiad Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Yr arenaFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r arena newydd yn dal hyd at 3,500 o bobl

Mae cynlluniau terfynol ar gyfer cynllun gwerth £500m i adfywio canol dinas Abertawe wedi cael eu cyflwyno.

Arena gyda 3,500 o seddi yw canolbwynt y cynllun, gyda "pharc arfordirol" o'i gwmpas, a gwesty, maes parcio aml lawr a phont ddigidol hefyd yn rhan o'r prosiect.

Y gobaith fyddai cwblhau'r gwaith adeiladu ar yr arena erbyn 2020, cyn i weddill y datblygiad gael ei orffen erbyn 2022.

Dywedodd adroddiad a gyflwynwyd i gynllunwyr y byddai datblygiad Abertawe ganolog yn creu "safle unigryw i Abertawe, ac i arfordir De Cymru yn gyffredinol".

Bydd cynllunwyr nawr yn penderfynu os fydd y prosiect yn derbyn caniatâd cynllunio, er bod caniatâd ymylol eisoes wedi ei roi.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tai, swyddfeydd a siopau yn cael eu hadeiladu ar safle maes parcio Dewi Sant, gyferbyn a'r arena

Dywedodd yr adroddiad y byddai'r datblygiad, sydd yn debygol o gostio tua £500m i'w gwblhau, yn dod a rhywbeth newydd a bywiog i galon y ddinas.

Bydd pont droed lydan yn cael ei hadeiladu dros y ffordd i gysylltu ardaloedd gogleddol a deheuol y ddinas.

"Yn ganolog i'r datblygiad yw creu parc arfordirol a thir cyhoeddus er mwyn cysylltu canol y ddinas gyda Bae Abertawe drwy lwybr newydd rhwng y gogledd a'r de."

Gallai rhan arall o'r datblygiad gynnwys "traeth dinesig" gydag acwariwm a chanolfan gwyddoniaeth.

Nid oes cadarnhad ar hyn o bryd o bryd yn union fydd penderfyniad y cynllunwyr yn cael ei gyhoeddi.