Defnyddio cerbydau i gofnodi tyllau'n y ffyrdd
- Cyhoeddwyd
Gall tacsis, bysiau a faniau sy'n tywys nwyddau gael eu defnyddio i gael gwared â thyllau yn y ffyrdd yn gyflymach.
Dywedodd cyngor Sir Fflint bod 4,000 o dyllau yn y ffyrdd wedi'u cofnodi yn y sir y flwyddyn ddiwethaf, yn costio £4m i'w trwsio.
Ond gall y dechnoleg sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru helpu er mwyn dod o hyd i dyllau cyn iddyn nhw waethygu.
Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy ddefnyddio teclyn sy'n casglu data wrth i'r cerbyd symud, gyda'r teclyn bach yn recordio cyflwr wyneb y ffordd.
Mae'r system yn casglu gwybodaeth fanwl iawn o ddirgryniadau a sut maen nhw'n newid.
Os ydy cerbyd yn teithio ar yr un ffordd pob dydd, mae'r data mae'n ei gasglu yn gallu dangos ardaloedd penodol sydd â phroblemau.
Mae treialon eisoes wedi'u cynnal yn Llundain, Gogledd Iwerddon a Bryste.
Mae'r data sy'n cael ei gasglu yn dangos cyflwr y ffyrdd ar fap mewn coch, oren a gwyrdd.
"Y brif broblem sydd gan gynghorau yw gwybod yn union ble mae problemau newydd yn codi ar ffyrdd," meddai Kevin Lee, wnaeth greu'r ddyfais.
"Mae yna waith cynnal a chadw yn digwydd ar hyn o bryd, ond efallai nad y lleoliad maen nhw'n canolbwyntio arno yw ble mae'r ffyrdd sydd â'r problemau gwaethaf ar hyn o bryd.
"Felly, os nad ydych yn gwybod ble mae'r broblem, sut mae disgwyl i chi ei drwsio? Budd y system yw ei fod yn recordio beth yw'r broblem a phryd mae'r broblem yn codi."
Mr Lee yw prif weithredwr cwmni Mobilized Construction yng Nghaerdydd, ac mae'n derbyn cefnogaeth o Ganolfan Rhagoriaeth Technoleg Symudol ac Allddodol (CEMET) ym Mhrifysgol De Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018