Tyllau ffyrdd yn Sir y Fflint yn 'warthus a pheryglus'

  • Cyhoeddwyd
Twll mewn ffordd
Disgrifiad o’r llun,

Gallai atgyweirio holl dyllau ffyrdd y sir gostio dros £40 miliwn

Bydd ansawdd ffyrdd yn Sir y Fflint yn cael ei drafod mewn cyfarfod cyngor ddydd Mawrth ar ôl i gynghorwyr ddweud fod nifer y tyllau yn y ffyrdd yn "warthus" a "pheryglus".

Mae'r cyngor eisoes wedi dweud y byddai atgyweirio holl dyllau'r sir yn costio dros £40 miliwn.

Er bod y cyngor wedi buddsoddi £1.4m dros haf 2018 yn dilyn grant gan Lywodraeth Cymru, mae un cynghorydd yn amcangyfrif fod miloedd o dyllau yn dal i fod.

Dywedodd y cynghorydd Chris Dolphin fod polisïau Cyngor Sir y Fflint yn "wych ond yn anymarferol" oherwydd "diffyg adnoddau".

Yn ôl y cynghorydd roedd yna un lôn wledig yn ei ardal oedd ag oddeutu 100 o dyllau ynddi.

Mae'r ffordd bellach wedi cael wyneb newydd.

'Gwarthus a pheryglus'

Er hyn mae'r cynghorydd yn dweud fod digon o enghreifftiau o ffyrdd sydd angen eu hatgyweirio yn y sir.

"Mae gennym brif swyddog gwych ond rydym yn dal i orfod lobïo'r llywodraeth am ragor o arian," meddai.

Dywedodd cynghorydd arall, Owen Thomas, nad oedd gwaith wedi cael ei wneud yn ei bentref er bod tyllau o ddyfnder penodol i fod i gael eu hatgyweirio o fewn pum niwrnod.

"Does dim pafin yng Nghilcain... dwi'n poeni am bobl oedrannus sy'n cerdded i'r siop. Mae'n beryglus," meddai.

Yn ôl adroddiad ar ansawdd ffyrdd y sir, er gwaethaf y gwaith a gafodd ei wneud dros yr haf llynedd mae ansawdd y ffyrdd yn "dirywio".