Heddlu'n lansio ymchwiliad i lofruddiaeth dyn yn Y Barri
- Cyhoeddwyd

Cafodd y corff ei ddarganfod ar Ffordd Wimborne yn Y Barri
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Y Barri.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Wimborne am tua 05:50 bore dydd Mercher ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod.
Mae'r heddlu yn parhau yn yr ardal ac mae'r safle wedi cael ei gau i ffwrdd o'r cyhoedd ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark O'Shea eu bod nhw yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth a bod ystafell ymchwilio arbennig bellach wedi'i sefydlu.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.