Diwrnod cyntaf streic staff prifysgol dros amodau gwaith
- Cyhoeddwyd
Bydd staff tair prifysgol yng Nghymru yn dechrau ar wyth diwrnod o weithredu diwydiannol ddydd Llun - mae'r streic yn ymwneud â phensiynau, tâl ac amodau gwaith.
Prifysgolion Caerdydd, Bangor a Phrifysgol Cymru yw'r sefydliadau fydd yn cael eu taro gan y gweithredu sy'n digwydd mewn 60 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig.
Aelodau undeb yr UCU sydd yn streicio ynglŷn â chyfraniadau i bensiynau, y defnydd o gytundebau achlysurol yn y sector a chyflogau.
Dywedodd cynrychiolwyr y prifysgolion eu bod wedi cymryd camau i amddiffyn pensiynau a thâl.
Mae undeb yr UCU yn cynrychioli academyddion, ymchwilwyr, gweithwyr gweinyddol a llyfrgellwyr yn y sector addysg uwch.
Pleidleisiodd staff mewn tair prifysgol yng Nghymru o blaid streicio dros ddau anghydfod gwahanol ar ôl croesi'r trothwy o 50% o'r aelodau'n bwrw eu pleidlais.
Mae'r gweithredu diwydiannol yn dechrau ddydd Llun, ac mae disgwyl picedu tu allan i adeiladau'r prifysgolion a 'dosbarthiadau am ddim' sy'n agored i'r cyhoedd mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd a Bangor.
Fe fydd rali'n cael ei gynnal ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd i nodi dechrau'r gweithredu.
'Ymladd dros ddyfodol addysg uwch'
Dyma'r eildro mewn dwy flynedd i aelodau'r UCU streicio - y tro diwethaf am 14 diwrnod yn Chwefror 2018 a hynny dros bensiynau.
Yn ôl yr undeb mae prifysgolion wedi parhau i gefnogi cynnydd yng nghyfraniadau staff i bensiynau USS.
Mae'r anghydfod arall ynglŷn â'r defnydd o gytundebau achlysurol mewn prifysgolion, cydraddoldeb cyflogau rhwng staff gwrywaidd a benywaidd a'r wasgfa ar gyflogau.
Dywedodd swyddogion yr undeb nad oedd y penderfyniad i streicio wedi ei wneud "ar chwarae bach".
Dywedodd Dyfrig Jones, Llywydd UCU Bangor: "Rydym yn llwyr ddeall mor anghyfleus y bydd hyn i'n myfyrwyr, a gresynwn hefyd y modd y bydd hyn yn achosi caledi ariannol sylweddol i'n haelodau.
"Ond mae'r materion dan sylw yn rhy bwysig i ni laesu dwylo a gwneud dim.
"Yn y fantol y mae cymaint yn fwy na'n pensiynau ni yn unig - rydym yn ymladd dros ddyfodol addysg uwch ei hun."
'Gwarchod gwerth pensiynau'
Ond mae'r cyrff sy'n cynrychioli prifysgolion, Universities UK a'r Universities College and Employers Association, wedi annog staff i ailfeddwl.
"Dros y misoedd diwethaf mae cyflogwyr wedi cymryd camau arwyddocaol i warchod gwerth pensiynau a thâl a hynny achos ein bod yn poeni am ein staff ymroddgar a thalentog", meddai'r cyrff.
"Mae'n ddrwg iawn gennym bod y gweithredu diwydiannol sydd wedi ei alw gan yr UCU yn debygol o darfu ar fyfyrwyr".
Mewn llythyr i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd dywedodd yr Is-ganghellor Colin Riordan ei fod yn disgwyl y bydd mwyafrif y dysgu yn mynd yn ei flaen ond ei bod yn bosib y byddai effaith mawr mewn rhai meysydd.
"Fe fydd y brifysgol yn aros ar agor a byddwn yn parhau i wneud popeth posib i leihau'r effaith ar eich astudiaethau", meddai.
Mewn llythyr tebyg at staff galwodd ar bawb i drin ei gilydd gydag "urddas, cwrteisi a pharch" mewn cyfnod o deimladau cryfion.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru: "Deallwn y gallai nifer fach o staff Prifysgol Cymru gymryd rhan yn y streic.
"Nid yw'r aelodau hynny o staff academaidd yn ymwneud yn uniongyrchol â dysgu myfyrwyr.
"Gallwn gadarnhau na fydd y streic yn cynnwys staff academaidd ar gampysau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2018